Neidio i'r cynnwys

Triangulum (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Triangulum
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y gogledd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07jz4 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Triangulum. "Triangulum" yw'r gair Lladin am "driongl". Fe'i helwir felly am fod ei dair seren disgleiriaf yn ffurfio triongl estynedig. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Triangulum

Nodweddion

[golygu | golygu cod]

Does gan Triangulum ddim sêr o'r magnitiwd cyntaf. Ei sêr disgleiriaf yw β Trianguli (magnitiwd 3.00) ac α Trianguli (m 3.41).

Gwrthrychau pwysig

[golygu | golygu cod]

Triangulum yw lleoliad Galaeth Triangulum, M33, un o'r galaethau yn y Grŵp Lleol. Mae'n 2.9 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd, a gyda magnitiwd o 5.8 mae'n ddigon disglair i'w gweld â'r llygaid yn unig ar nosweithiau clir.

Hanes a mytholeg

[golygu | golygu cod]

Un o enwau cynnar y cytser oedd Sicilia, am y credid fod Ceres, nawdd-dduwies Sisili, wedi deisyfu'r duw Iau i roi'r ynys honno yn y nefoedd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Triangulum", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 28 Mawrth 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]