Norma (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1751 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y de |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/019d34 |
Cytser pŵl bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Norma. "Norma" yw'r gair Lladin am "sgwaryn". Fe'i henwyd yn "L’Equerre et la Regle" (y sgwaryn a'r pren mesur") yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'r gair Lladin Norma ("sgwaryn").[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
