Coma Berenices
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 245 CC ![]() |
Yn cynnwys | Left Wall of the Supreme Palace Enclosure, Five Lords, Officer of Honour, Captain of the Bodyguards, Officers of the Imperial Guard ![]() |
![]() |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Coma Berenices. Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

"Coma Berenices" yw'r ymadrodd Lladin am "wallt Berenice". Mae'r enw yn cyfeirio at y Frenhines Berenice II o'r Hen Aifft (3ydd ganrif CC), a aberthodd ei gwallt hir yn offrwm addunedol. Ni chynhwysodd y seryddwr Ptolemi Coma Berenices yn y rhestr o 48 cytser yn ei Almagest (2il ganrif), er iddo gyfeirio ato fel grŵp o sêr. Dangoswyd y grŵp fel cytser ar wahân am y tro cyntaf ym 1536, ar glôb gan y cartograffydd Caspar Vopel.[1]
Gwrthrychau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Coma Berenices", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 2 Ebrill 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Coma Berenices", Awyr Dywyll Cymru