Orion (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cytser Orion

Orion yw un o'r 88 cytser seryddol yn yr awyr nos. Y mae un o'r cytserau enwocaf oherwydd nifer y sêr disglair sydd yn weladwy i lygaid noeth. Enwir ar ôl yr heliwr Orion ym mytholeg Roeg.[1][2]

Hanes a mytholeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cytser Orion yn atlas sêr y seryddwr Johann Bayer o'r flwyddyn 1603.

Heliwr a chawr oedd Orion ym mytholeg Roeg. Ymddangosir fel cymeriad yn Odyseia ac Iliad Homer, ac yn ysgrifau eraill. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, lladdwyd Orion yn ddamweiniol gan saeth a saethwyd gan Artemis. Mewn fersiwn arall, lladdwyd gan sgorpion. Cododd Zeus efe a'r sgorpion i'r wybren, ond gosododd y ddau mewn lleoedd gwrthgyferbyniol. Dyma'r rheswm yn ôl y chwedl mae'r cytserau Orion a Scorpius mor bell o'u gilydd yn y wybren.[3][4] Fe welodd pobl y byd clasurol sêr Orion yn amlinellu siâp y cymeriad, gyda'i ysgwyddau, breichiau, coesau, gwregys a'i gleddyf.

Yr oedd Orion un o'r 48 cytser ar restr yr athronydd Ptolemi yn yr ail ganrif. Heddiw mae Orion un o'r 88 cytser wnaeth yr Undeb Seryddol Rhyngwladol eu cydnabod yn swyddogol ym 1922.

Y cytser[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r cyhydedd wybrennol yn mynd trwy Orion, a felly fe welir y cytser yn gyfan o bron pob rhan o'r Ddaear. Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Orion yn y wybren ym mis Rhagfyr, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Ionawr a Mawrth mae'r cytser yn rhan amlwg o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi.

Mae'r cyhydedd galaethol, sef plân canolog yr Alaeth, yn mynd trwy rhan o'r cytser. Felly mae'r Llwybr Llaethog yn mynd trwy Orion, ac o ganlyniad mae nifer fawr o sêr a nifylau i'w weld ynddo. Y disgleiriaf o'r nifylau ydy Nifwl Mawr Orion, a adnabyddir hefyd fel Messier 42.[4]

Y sêr disgleiriaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun o Orion yn dangos y sêr disgleiriaf yn y cytser

Mae'r saith seren fwyaf disglair yn Orion yn ffurfio patrwm sydd yn hawdd i adnabod. Y saith seren ydy:[4][5]

Enw
traddodiadol
Enw Bayer Mantioli
ymddangosol

(gweladwy)
Dosbarth
sbectrol
Nodiadau
Betelgeuse Alffa Orionis (α Ori) 0.1–1.1
(newidiol)
M1–2 Ia–Iab seren newidiol
Rigel Beta Orionis (β Ori) 0.12 B8 Iae
Bellatrix Gamma Orionis (γ Ori) 1.64 B2 III
Mintaka Delta Orionis (δ Ori) 2.23 B0 III
O9 V
seren ddeuaidd
sbectrosgopig
Alnilam Epsilon Orionis (ε Ori) 1.70 B0 Iae
Alnitak Zeta Orionis (ζ Ori) 1.74 O9 Ibe
B0 III
seren ddeuaidd
Saiph Kappa Orionis (κ Ori) 2.06 B0.5 Ia

Mae'r enwau yma yn deillio o hen enwau, neu ddisgrifiadau, Arabaidd, a maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ambell iaith.[6] Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), ag ati, yn cael eu defnyddio hefyd yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Ori ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser.

Y ddwy seren ddisgleiriaf ydy Betelgeuse (Alffa Orionis) a Rigel (Beta Orionis). Seren uwchgawr coch ydy Betelgeuse gyda dosbarth sbectrol o M1 neu M2, a mae lliw oren neu goch yn weladwy yn blaen i'r llygad noeth. Fel uwchgawr coch, mae diamedr y seren yn fawr iawn, tua 1700 gwaith diamedr yr Haul, a mae'r tymheredd arwynebol tua 3600 K (3300 °C), yn llawer llai na'r Haul. Mae Betelgeuse yn seren newidiol, a mae disgleirdeb y seren yn newid rhwng tua maintioli gweladwy 0.1 a 1.1.[7] Betelgeuse ydy un o'r sêr newidiol mwyaf disglair yn y wybren. Mae'r pellter tua 640 o flynyddoedd goleuni o'r Ddaear. Mae'n seren esblygedig yn agos i derfyn ei hoes, a chredir fydd yn ffrwydro fel uwchnofa rhywbryd yn ystod y miliwn blynyddoedd nesaf.[4]

Fel Betelgeuse, seren uwchgawr ydy Rigel gyda goleuedd–yr egni sydd yn cael ei allyrru pob eiliad fel golau gweladwy, isgoch, uwchfioled, ag ati–dros 100000 waith mwy na'r Haul. Yn wahanol iawn i Betelgeuse, mae Rigel yn ymddangos gyda lliw glas-gwyn i'r llygad noeth. Er ei ddisgrifiad fel Beta Orionis, gyda maintioli gweladwy o 0.12, mae Rigel yn fwy disglair na Betelgeuse, hyd yn oed pan mae Betelgeuse ar ei ddisgleiriaf fel seren newidiol. Pellter Rigel o'r Ddaear ydy tua 860 o flynyddoedd goleuni.[4]

Mae gan y tair seren yng Ngwregys Orion yr enwau Mintaka, Alnilam ac Alnitak. Yn anarferol, fe welir y tair seren ddisglair yma yn agos i'w gilydd mewn llinell yn y wybren. Ymddangosir y nifwl tywyll Pen Ceffyl yn agos i Alnitak. Lleolir Nifwl Mawr Orion ychydig i'r de o'r Gwregys.[4]

Nifylau a ffurfiant sêr[golygu | golygu cod y dudalen]

Llun o Orion recordiwyd dros amser estynedig sydd yn dangos nifylau o ddisgleirdeb gwan

Adnabyddir Orion fel rhan o'r Llwybr Llaethog lle welir ardaloedd eang o nwy rhyngserol oer yn ffurfio sêr newydd. Mae'r nwy mewn cymylau moleciwlaidd enfawr yn crebachu dan ei ddisgyrchiant ei hun i ffurfio sêr. Mewn nifer o leoedd mae'r sêr newydd, yn enwedig rhai poeth o fàs uchel, yn disgleirio i mewn i'r nwy o'u amgylch, a fel canlyniad yn cynhesu'r nwy ac yn ei ïoneiddio i greu parth HII. Felly, mewn sawl lle mae'r nwy poeth rhyngserol yn disgleirio ac yn weladwy fel nifylau. Mewn lleoedd eraill, mae'r nwy yn oer ac yn ddigon dwys i'r llwch sydd yn wasgaredig trwyddo amsugno golau sêr sydd tu ôl, ac felly yn ymddangos yn dywyll. Mewn lleoedd eraill mae golau sêr disglair yn cael ei adlewyrchu gan llwch ac yn ymddangos fel nifylau adlewyrchol. O ganlyniad, mae Orion yn cynnwys cymysgedd cyfoethog o nifylau disglair, nifylau tywyll, a chlystyrau o sêr newydd.

Nifwl Mawr Orion, a adnabyddir hefyd fel Messier 42

Y nifwl mwyaf adnabyddus yn Orion–ac efallai trwy'r holl wybren–ydy Nifwl Mawr Orion. Galwyd y parth HII hwn Messier 42 (M42) ar ôl ei le yng nghatalog yr hen seryddwr Charles Messier, gyda rhan arall agos yn cael ei alw Messier 43 (M43). Mae'r nifwl mor ddisglair iddo fod yn weladwy trwy binociwlars. Yn agos i'r gogledd hefyd mae NGC 1977. Mae nwy y nifwl wedi ffurfio sêr yn y gorffennol trwy grebachu dan atyniad disgyrchiant ei hun, a mae'r sêr hyn yn bodoli mewn clwstwr. Yng nghanol y clwstwr ydy'r Trapesiwm, seren luosg o bedair seren ddisglair cyfagos sydd yn weladwy trwy delesgop bach amatur.[4]

Nifylau o amgylch Zeta Orionis (chwith), yn cynnwys Nifwl Pen Ceffyl tywyll

Gwelir nifer o barthau HII yn agos i Alnitak (Zeta Orionis), sy'n disgleirio oherwydd effaith golau uwchfioled Alnitak a sêr eraill. I'r gogledd-orllewin mae NGC 2024, ac i'r de-orllewin NGC 2023. Mae'r nifwl IC 434 yn rhedeg ymhell i'r de o Alnitak, ond o flaen IC 434 mae cwmwl tywyll o nwy a llwch oer. Mae rhan o'r cwmwl tywyll yn ffurfio siâp pen ceffyl sydd i'w weld yn blaen ar ddelweddau recordiwyd drwy delesgopau. Hwn ydy'r Nifwl Pen Ceffyl enwog.[4]

Nifwl Pen Ceffyl, cwmwl nwy oer a llwch a welir o flaen y nifwl golau IC 434

Mae parthau HII eraill yn Orion gan gynnwys NGC 1990 a NGC 2174.[8]

Mae'r nifylau adlewyrchol yn Orion yn cynnwys Messier 78, NGC 1999, NGC 2064, NGC 2067 a NGC 2071. Gwelir rhain oherwydd bod golau sêr cyfagos yn cael ei adlewyrchu gan llwch yn gymysg â'r nwy.[4][8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts.  Tud. 157–158 a 166.
  2. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf.  Tud. 54
  3. Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert.  Tud. 303–310. (Yn Saesneg.)
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 4.8 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23568-8.  Tud. 1281–1289. (Yn Saesneg.)
  5. Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory.  (4ydd argraffiad) (Yn Saesneg.)
  6. IAU Division C Working Group on Star Names (2016). "IAU Catalog of Star Names". http://www.pas.rochester.edu/~emamajek/WGSN/IAU-CSN.txt. Adalwyd 20 Hydref 2016. (Catalog swyddogol enwau traddodiadaol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
  7. American Association of Variable Star Observers (2016). "Light Curve Generator" (HTTP). https://www.aavso.org/lcg. Adalwyd 20 Hydref 2016. Data hanesyddol am faintioli Betelgeuse ym mand V. (Yn Saesneg.)
  8. 8.0 8.1 "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. http://simbad.u-strasbg.fr/simbad/. Adalwyd 20 Hydref 2016. Ymchwiliadau am nifylau pennodol yn adnodd Simbad.
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.