Neidio i'r cynnwys

Cygnus (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Cygnus
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y gogledd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01wt5 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Cygnus (ynganiad Cymraeg: Signws[angen ffynhonnell]) neu'r Alarch[1]. "Cygnus" yw'r gair Lladin am "alarch". Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[2] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Cygnus

Hanes a mytholeg

[golygu | golygu cod]
Cytser Cygnus fel alarch yn hedfan mewn fersiwn Ffrengig 1776 o Atlas Coelestis y seryddwr John Flamsteed

Gelwir y cytser ar ôl alarch oherwydd yr oedd pobl y byd clasurol yn gweld patrwm alarch yn hedfan. Cysylltwyd y cytser â sawl chwedl am alarch ym mytholeg Roeg. Mewn un o'r rhain, dyma'r ffurf alarch y gwnaeth Zews ei defnyddio i ymweld â Leda.

Y seren gyntaf i gael ei phellter oddi wrth Gysawd yr Haul wedi ei chyhoeddi oedd 61 Cygni, seren ddwbl yn Cygnus. Ym 1838 cyhoeddodd y seryddwr Almaeneg Wilhelm Bessell ei fesur o baralacs 61 Cygni, ychydig cyn i Otto Struve a Thomas Henderson gyhoeddi eu mesuriadau o Vega a Alffa Centauri.[3]

Un o'r ffynonellau radio cyntaf i gael eu darganfod y tu allan i Gysawd yr Haul oedd Cygnus A, galaeth weithredol bell o Alaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni. Mae Cygnus X-1 un o'r ffynonellau pelydr X cryfaf yn y wybren, a ddarganfuwyd yn 1962. Credir iddi fod yn seren fasfawr yn cylchdroi o amgylch twll du.[3]

Natur y cytser

[golygu | golygu cod]
Cytser Cygnus yn dangos sêr sydd yn weladwy i'r llygad noeth, a hefyd, yn llwydlas, y Llwybr Llaethog

I'r llygad noeth, mae sêr disglair Cygnus yn amlinellu siâp croes gyda'r seren ddisgleiriaf, Deneb neu Alffa Cygni (α Cyg), wrth ben y groes. Mae Deneb a'r sêr disglair Vega ac Altair yng nghytserau cyfagos yn ffurfio triongl yn y wybren. Ar droed y groes, neu ben yr alarch, mae Albireo, Beta Cygni (β Cyg), sydd yn seren ddwbl, hawdd i'w hymwahanu mewn telesgop bach. O ddiddordeb y mae'r ffaith bod gan y ddwy seren liwiau gwahanol, un yn oren a'r llall yn las.[3]

Mae'r enwau hyn yn deillio o hen enwau, neu ddisgrifiadau, Arabaidd, a maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ambell iaith.[4] Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), ac ati, yn cael eu defnyddio hefyd yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Cyg ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser. Defnyddnir Cygni gyda'r lythyren Roeg Bayer i olygu bod seren yn perthyn i'r cytser yn ôl rheolau gramadeg Lladin.

Mae'r cyhydedd galaethol, sef gwastadeddd canolog yr Alaeth, yn mynd trwy ganol y cytser. Felly mae'r Llwybr Llaethog yn llenwi Cygnus, ac o ganlyniad mae nifer fawr o glystyrau sêr a nifylau i'w gweld ynddo. Mae'r Llwybr Llaethog yn ddisglair yn y rhan hon o'r wybren, ac yn afreolaidd mewn lleoedd oherwydd presenoldeb cymylau o nwy a llwch oer sydd yn amsugno golau sêr sydd tu ôl iddynt.

Clystyrau sêr, nifylau a ffurfiant sêr

[golygu | golygu cod]

Mae Cygnus yn rhan o'r Llwybr Llaethog lle mae cymylau o nwy oer yn crebachu dan eu disgyrchiant eu hunain i ffurfio sêr. Mae'r sêr newydd hyn yn ffurfio mewn clystyrau. Ymhlith y clystyrau sêr yn Cygnus, Messier 39 (M39, neu NGC 7092) a Messier 29 (M29, neu NGC 6913) yw'r fwyaf adnabyddus.[3]

Mae sêr newydd o fàs uchel yn cynhyrchu llawer o olau uwchfioled sydd yn gallu ïoneiddio'r nwy o'u hamgylch i greu parthau HII. Mae'r nwy poeth hyn yn disgleirio ac yn weladwy fel nifylau.

Ymhlith y nifylau yn Cygnus yw'r Nifwl Gogledd America neu NGC 7000, sydd yn barth HII gyda siâp Gogledd America. Yn wahanol iawn, gweddill uwchnofa yw Nifwl y Llen, sydd yn ymddangos yn ddwy ran, NGC 6960 a NGC 6992.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  alarch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2026-07-14.
  2. "Cygnus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 28 Mawrth 2025
  3. 1 2 3 4 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications. Tud. 735–816. (Yn Saesneg.)
  4. IAU Division C Working Group on Star Names (2016). "IAU Catalog of Star Names". Cyrchwyd 26 Hydref 2016. (Catalog swyddogol enwau traddodiadol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]