Cepheus (cytser)
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Cepheus. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
Fe'i lleolir rhwng Draco a Cassiopeia ymhell i'r gogledd yn yr awyr, yn agos i Seren y Gogledd. Ei seren ddisgleiriaf yw Alderamin.
Fe'i enwir ar ôl cymeriad ym mytholeg Roeg, Cepheus brenin Ethiopia, oedd yn ŵr i Cassiopeia, ac yn dad i Andromeda. Trawsnewidiwyd y cymeriadau hyn i gyd yn gytserau – yn ogystal â Cepheus ei hun, ceir Cassiopeia ac Andromeda.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Cepheus", Awyr Dywyll Cymru