Neidio i'r cynnwys

Triangulum Australe

Oddi ar Wicipedia
Triangulum Australe
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod16 g Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Triangulum Australe. "Triangulum Australe" yw'r ymadrodd Lladin am "y triongl deheuol" (i'w wahaniaethu oddi wrth y cytser Triangulum yn hemisffer y gogledd). Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb wybrennol gan Petrus Plancius ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Triangulum Australe

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Triangulum Australe", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 24 Mawrth 2025