Neidio i'r cynnwys

Delphinus (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Delphinus
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y gogledd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytser Delphinus fel dolffin mewn fersiwn 1729 o Atlas Coelestis y seryddwr John Flamsteed

Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Delphinus. "Delphinus" yw'r gair Lladin am "ddolffin".[1] Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[2] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Delphinus

Del ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb am y cytser. Mae'r ffurf Delphini yn dynodi seren o'r cytser, er engrhaifft Alpha Delphini (α Del) a Beta Delphini (β Del), y sêr disgleiriaf yn y cytser.

Lleolir Dephinus ychydig i'r gogledd o'r cyhydedd wybrennol, rhwng y cytserau Aquila, Sagitta, Vulpecula, Pegasus, Equuleus ac Aquarius. Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Orion yn y wybren ym mis Gorffennaf, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Gorffennaf a Hydref yw'r cyfnod gorau i weld y cytser ar ôl iddi nosi.

Mae Delphinus yn cynnwys rhan o'r Llwybr Llaethog ac o ganlyniad mae rhai nifylau a chlystyrau sêr i'w gweld yn y cytser. Ymhlith rhain mae'r nifwl planedol NGC 6891, a'r chlystyrau globylog NGC 6834 a NGC 7006, ond does dim un yn ddisglair iawn.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Delphinus, the Dolphin", yn Richard Hinckley Allen, Star-Names and Their Meanings (Efrog Newydd: G. E. Stechert, 1899), tt.198–201
  2. "Delphinus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 5 Ebrill 2025
  3. Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 2. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. Tud. 817–832. (Yn Saesneg.)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]