Clwstwr sêr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clwstwr sêr NGC 265 yng Nhwmwl Bach Magellan

Mae clwstwr sêr yn gasgliad o nifer fawr o sêr mewn rhan bach o'r gofod, lle mae'r sêr yn llawer iawn mwy niferus nag yn ardaloedd agos cyffelyb.[1]

Natur clystyrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Clwstwr agored Messier 11.
Clwstwr agored NGC 4755, adnabyddir fel y Blwch Gemau.
Clwstwr globylog Messier 80 (NGC 6093)
Clwstwr agored Messier 45, adnabyddir hefyd fel Y Pleiades a'r Twr Tewdws

Gall clystyrau gynnwys cyn lleied â dwsinau o sêr, neu fwy na miliwn seren. Mae'r sêr yn symud tu fewn i'r clwstwr dan atyniad disgyrchiant holl sêr eraill y clwstwr, ac mae eu disgyrchiant yn eu cadw at ei gilydd. Mae sêr unrhyw glwstwr wedi eu creu yr un adeg drwy grebachiad cwmwl nwy rhyngserol, ac felly mae holl sêr clwstwr o'r un oed a'r un cyfansoddiad cemegol.[2]

Mae dau fath o glystyrau yn bodoli yn ein Galaeth ni, sef:

  • clystyrau agored, gyda dwsinau neu gannoedd o sêr;
  • clystyrau globylog, neu clystyrau crwn, gyda miloedd o sêr mewn cyfaint bach.

Nid yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau fath o glwstwr mor glir mewn rhai galaethau eraill.

Clystyrau agored[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae clystyrau agored yn cael ei ffurfio tu fewn i ddisg ein Galaeth ni allan o gymylau nwy oer sydd yn crebachu dan eu disgyrchiant eu hunain. Ar ôl ffurfio mae sêr mas uchel yn cynhesu y nwy sydd ar ôl, a mae'r nwy yn cael ei wasgaru yn araf, trwy adael clwstwr ar ben ei hun. O ganlyniad, ganfyddir clystyrau agored yn ddisg yr Alaeth. Felly mae nifer mawr ohonynt yn cael eu gweld yn agos i'r Llwybr Llaethog yn yr awyr.

Mae pellter rhwng y sêr mewn clwstwr agored yn ddigon uchel i alluogi'r effaith ddisgyrchiant cymylau moleciwlaidd enfawr eu torri i fyny yn araf iawn dros miliynau o flynyddoedd neu mwy. O ganlyniad, mae oes glwstwr agored yn llawer llai nag oes yr Alaeth, a mae mwyafrif dim ond degau o filiynau o flynyddoedd oed. Felly ganfyddir sêr eithaf ieuanc yn y clystyrau, i gymharu â'r sêr yr Alaeth yn gyffredinol.[2]

Clystyrau globylog[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r enw clwstwr globylog yn dod o'r ffaith bod y sêr i'w cael mewn siâp glôb. Defnyddir y term clwstwr crwn hefyd.

Mae natur clystyrau globylog yn wahanol iawn i glystyrau agored ein Galaeth ni. Er bod y ddwy yn eithaf tebyg o safbwynt eu tryfesur, mae gan clystyrau globylog nifer rhwng 10,000 a miliynau o sêr. Felly mae disgyrchiant mewnol clystyrau globylog yn ddigon cryf i gadw'r rhan fwyaf o'r sêr heb ffoi.

Mae 147 clwstwr globylog wedi eu darganfod yn ein Galaeth ni. Mae rhain yn wasgaredig o amgylch yr Alaeth, yn wahanol iawn i'r clystyrau agored sydd tu fewn i'r ddisg.

Mae sêr clystyrau globylog yn hen iawn, ymysg y sêr hynaf yn ein Galaeth ni. Ffurfiwyd yn hanes cynnar yr Alaeth allan o nwy oedd yn cynnwys llai o elfennau cemegol mwy drwm na hydrogen a heliwm i gymharu gyda nwy sydd yn bodoli yn yr Alaeth ar hyn o bryd.[2]

Clystyrau enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y clystyrau agored sydd yn hawdd i'w gweld gyda'r llygad noeth ydy'r Pleiades neu'r Twr Tewdws (Messier 45), yr Hyades, a'r Praesepe neu'r Cwch Gwenyn (M44).[1] Y clystyrau globylog disgleiriaf yw Omega Centauri a 47 Tucanae, sydd yn weladwy i'r llygad noeth, ond sydd mor pell i'r dde yn y wybren maent yn amhosibl i'w gweld o Gymru. Un o'r clystyrau globylog mwyaf enwog yn hemisffer gogleddol y wybren ydy M13 yng nghytser Hercules.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. pp. 203–204. 
  2. 2.0 2.1 2.2 Mihalas, Dmitri; Binney, James (1981). Galactic Astronomy. San Francisco: W. H. Freeman and Company. ISBN 0-716-71280-6.  (Yn Saesneg.)
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.