Corona Borealis
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Rhan o | hemisffer wybrennol y gogledd |
| Yn cynnwys | Gamma Coronae Borealis, Coiled Thong, Celestial Discipline |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01wsp |
Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Corona Borealis (Cymraeg: Coron y Gogledd). Mae ei sêr disgleiriaf yn ffurfio arc hanner cylch, sy'n egluro ei enw: "Corona Borealis" yw'r ymadrodd Lladin am "y goron ogleddol". Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Gelwir y cytser hwn weithiau yn "Caer Arianrhod" yn Gymraeg, enw y gellir ei ddefnyddio hefyd am y Llwybr Llaethog.

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Corona Australis, Coron y De
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Corona Borealis", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 3 Ebrill 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Corona Borealis", Awyr Dywyll Cymru