Andromeda (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Rhan o | hemisffer wybrennol y gogledd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/014031 |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Andromeda. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Ym mytholeg Roeg Andromeda oedd merch Cassiopeia. Wedi iddi achosi digofaint Poseidon, cafodd hi ei chadwynu wrth graig ar ymyl y môr a'i gadael i gael ei lladd gan yr anghenfil môr Cetus cyn i Perseus ei hachub. Trawsnewidiwyd y cymeriadau hyn i gyd yn gytserau – Cassiopeia, Cetus, Perseus ac Andromeda ei hun.
Alpheratz yw seren ddisgleiriaf y cytser. Mae'r cytser yn cynnwys Galaeth Andromeda (Messier 31).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Andromeda", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 28 Mawrth 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Andromeda" Archifwyd 2025-04-02 yn y Peiriant Wayback, Awyr Dywyll Cymru