Pyxis
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1752 ![]() |
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
Rhagflaenydd | Malus ![]() |
![]() |
Cytser pŵl bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Pyxis. "Pyxis" yw'r gair Lladin am "gwmpawd". Fe'i henwyd yn "La Boussole" yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'r ymadrodd Lladin, Pixis Nautica ("cwmpawd morwrol""), enw a fyrhawyd yn "Pyxis" wedyn.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
