Apus
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1598 ![]() |
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Apus. Ar hen siartiau sêr fe'i cynrychiolir fel aderyn paradwys. Mae'r enw "Apus" yn deillio o'r gair Groeg apous sy'n golygu "heb draed" oherwydd nad oedd gan y sbesimenau marw cyntaf a ddygwyd o Gini Newydd i Ewrop unrhyw draed. Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb gan Petrus Plancius o dan yr enw Paradys-vogel Apis Indica (cymysgedd o Iseldireg a Lladin) ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer gyda'r enw Apis Indica, enw a newidiwyd yn "Apus" yn y 19g.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
