Neidio i'r cynnwys

Hydrus

Oddi ar Wicipedia
Hydrus
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1597 Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Peidiwch â chymysgu y cytser hwn ag y cytser Hydra.

Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Hydrus. "Hydrus" yw'r gair Lladin am "neidr ddŵr wrwaidd" – mewn cyferbyniad â Hydra, cytser llawer mwy amlwg sy'n cynrychioli neidr ddŵr fenywaidd. Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb wybrennol gan Petrus Plancius ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Hydrus

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Hydrus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 30 Mawrth 2025