Neidio i'r cynnwys

Taurus (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Taurus
Enghraifft o:cytser, cytser sidyddol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAldébaran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae'r erthygl hon am y cytser seryddol. Am yr arwydd astrolegol, gweler Y Tarw (sêr-ddewiniaeth).

Cytser mawr a welir yn awyr y nos yn hemisfferau wybrennol y gogledd a'r de, yn croesi'r cyhydedd wybrennol, yw Taurus. "Taurus" yw'r enw Lladin am "darw". Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Mae'n un o gytserau'r Sidydd, wedi'i leoli rhwng Aries i'r gorllewin a Gemini i'r dwyrain. yw ei hen symbol seryddol.

Map yn dangos maint y sêr yn Taurus

Mae Taurus yn cynnwys y seren ddisglair Aldebaran, sy'n dangos lliw oren i'r llygad noeth. Mae'n cynnwys y ddwy glwstwr sêr amlwg, y Twr Tewdws (y Pleiades) a'r Hyades. Mae rhan o'r Llwybr Llaethog yn mynd trwy Taurus, a felly gwelir nifer o nifylau a chlystyrau sêr eraill yn y cytser. Ymlith y rhain yw Nifwl y Cranc, gweddill uwchnofa arsyllwyd yn y flwyddyn 1054.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Taurus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 27 Mawrth 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]