Telesgop Gofod Hubble

Oddi ar Wicipedia
Telesgop Gofod Hubble
Lansiwyd 24 Ebrill 1990
Perchennog NASA
Pellter o'r ddaear 600km
Gwefan Swyddogol http://hubble.nasa.gov/

Mae Telesgop Gofod Hubble yn delesgop enwog sydd yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Hwn oedd y telesgop optegol cyntaf o sylwedd i droi o gwmpas y Ddaear mewn orbit. Mae'r telesgop yn medru arsyllu 24 awr y dydd ac yn gallu cynhyrchu delweddau o'r awyr sy'n llawer cliriach na unrhyw delesgop daearol gan fod lleoliad y telesgop uwchben yr atmosffer. Enwyd y telesgop ar ôl y seryddwr Edwin Hubble.[1]

Adeiladwyd y telesgop gan NASA ac yr ESA. Lleolir y telesgop 600 km uwchben y ddaear a lansiwyd ar y 24ain o Ebrill 1990. Mae'r telesgop yn cwblhau orbit cyfan o'r Ddaear mewn 97 munud sy'n golygu ei fod yn teithio 5 milltir mewn eilliad.

Mae'r Hubble ei hun tua'r un maint a bws ysgol fawr, ond yn ddigon bach i ffitio mewn ardal cargo Gwennol Ofod. Cafodd Telesgop Gofod Hubble ei atgyweirio yn 1993 oherwydd amherffeithrwydd y delweddau a gynhyrchir. Roedd yna broblem efo cromlin un o’r drychau, a danfonwyd gwennol ofod arall i fyny i atgyweirio'r broblem.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hubble Essentials". HubbleSite.org (yn Saesneg). Space Telescope Science Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016.