Twr Tewdws
Gwedd
| Enghraifft o: | clwstwr agored |
|---|---|
| Màs | 800 |
| Rhan o | Orion Arm |
| Yn cynnwys | Alcyone, Atlas, Electra, Mérope, Taygeta, Pleione, Maia, Celaeno, Asterope |
| Cytser | Taurus |
| Pellter o'r Ddaear | 134.4 +2.9 -2.8 |
| Paralacs (π) | 7.364 ±0.005 |
| Cyflymder rheiddiol | 5.65 ±0.09 cilometr yr eiliad |
| Radiws | 7.5 blwyddyn golau |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0fmsd |


Grŵp cryno o sêr (neu seroliaeth) yn awyr y nos yw Twr Tewdws neu'r Pleiades. Mae'n rhan o gytser Taurus. Fe'i hadwaenir hefyd fel y Saith Chwaer a Messier 45 (M45).[1][2] Dyma un o'r clystyrau sêr agosaf at y Ddaear ac un o'r amlycaf i'r llygad noeth yn awyr y nos.[3]
Mae chwech o'r sêr yn y grŵp yn hawdd i'w gweld gyda'r llygad noeth. (Mae'r seren ddisgleiriaf, Alcyone, o'r trydydd maintioli.) Gellir gweld un arall yn ychwanegol o leoedd tywyll ymhell o oleuadau trefol, a gall rhai bobl gyda golwg dda weld mwy. Gellir gweld llawer mwy gan ddefnyddio binocwlars neu delesgop bach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Hydref 2016.
- ↑ "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 25 Hydref 2016. (Yn Saesneg.) Chwiliad am yr Pleiades yn adnodd Simbad.
- ↑ Evans, Aneurin (1984), "Hanes yr Haul a'r Sêr–II", Y Gwyddonydd 22 (3): 104–108, https://journals.library.wales/view/1394134/1406652/35, adalwyd 10 Ebrill 2017