Sidydd

Mae'r Sidydd (Saesneg: zodiac; (Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos) yn gylch o 12 rhaniad 30° ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn dros gyfnod o flwyddyn. Mae llwybr y lloer a'r planedau'n agos iawn i'r eliptig sy'n ymestyn 8-9° i'r gogledd neu'r de ac a fesurir mewn lledred seryddol.
Gelwir y rhaniadau hyn yn ddeuddeng "Arwydd". Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol, bellach.
Arwyddion y Sidydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis y flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl yma yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan ydyw'r haul yn mynd drwyddynt.
Cytser | Arwydd (Symbol) | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn yr arwydd | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn y cytser (yn 2000) |
Yr Hwrdd | ![]() |
21 Mawrth - 20 Ebrill | 20 Ebrill - 13 Mai |
Y Tarw | ![]() |
21 Ebrill - 21 Mai | 14 Mai - 19 Mehefin |
Y Gefeilliaid | ![]() |
22 Mai - 21 Mehefin | 20 Mehefin - 20 Gorffennaf |
Y Cranc (y sidydd) | ![]() |
22 Mehefin - 22 Gorffennaf | 21 Gorffennaf - 9 Awst |
Y Llew | ![]() |
23 Gorffennaf - 22 Awst | 10 Awst - 15 Medi |
Y Forwyn | ![]() |
23 Awst - 22 Medi | 16 Medi - 30 Hydref |
Y Glorian | ![]() |
23 Medi - 22 Hydref | 31 Hydref - 22 Tachwedd |
Y Sgorpion | ![]() |
23 Hydref - 22 Tachwedd | 23 Tachwedd - 29 Tachwedd |
Ophiuchus | 30 Tachwedd - 17 Rhagfyr | ||
Y Saethydd | ![]() |
23 Tachwedd - 21 Rhagfyr | 18 Rhagfyr - 18 Ionawr |
Yr Afr | ![]() |
22 Rhagfyr - 20 Ionawr | 19 Ionawr - 15 Chwefror |
Y Cariwr Dŵr | ![]() |
21 Ionawr - 18 Chwefror | 16 Chwefror - 11 Mawrth |
Y Pysgod | ![]() |
19 Chwefror - 20 Mawrth | 12 Mawrth - 18 Ebrill |
Llawysgrif Gutun Owain[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae rhan gyntaf Llawysgrif Gutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y 15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill a iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.