Neidio i'r cynnwys

Ursa Minor

Oddi ar Wicipedia
Ursa Minor
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y gogledd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSeren y Gogledd Edit this on Wikidata
Enw brodorolLittle Bear Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Ursa Minor neu'r Arth Fach. Mae'n cynnwys Seren y Gogledd (Polaris).[1][2] "Ursa Minor" yw'r ymadrodd Lladin am "yr arth leiaf"; mae hyn yn ei wahaniaethu oddi wrth Ursa Major ("yr arth fwyaf"), sy'n gytser mwy amlwg. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[3] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922. UMi ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.

Map yn dangos maint y sêr yn Ursa Minor

Cytser eithaf bach ydy Ursa Minor. Mae'r sêr sydd yn weladwy i'r llygaid noeth yn amlinellu siâp tebyg i'r Aradr yn Ursa Major, ond llawer llai. Mae Ursa Minor yn wastad uwchben y gorwel a byth yn machlud. Mae'n weladwy o bron holl o hemisffer gogleddol y byd, ond anweladwy o hemisffer y de.

Polaris, o faintioli 2.0, ydy ei seren disgleiriaf, a felly adnabyddir y seren fel Alpha Ursae Minoris (α UMi) ar gyfundrefn enwi sêr yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Yr unig sêr eraill yn y cytser sydd yn hawdd i'w gweld gyda'r llygad noeth ydy Kochab, neu Beta Ursae Minoris (β UMi), o faintioli 2.1, a Gamma (γ UMi) o faintioli 3.1.[4]

Y sêr disgleiriaf yn y cytser ydy[4]:

Enw Bayer Enw
traddodiadol
Mantioli
ymddangosol

(gweladwy)
Math
sbectrol
Alpha Ursae Minoris (α UMi) Polaris, Seren y Gogledd 1.98 (newidiol) F8 Ib
Beta Ursae Minoris (β UMi) Kochab 2.06 K4 III
Gamma Ursae Minoris (γ UMi) Pherkad 3.08 A3 II

Does dim nifylau, clysterau sêr na galaethau disglair yn y cytser.[4] Fel pob rhan arall o'r wybren, mae nifer fawr iawn o alaethau pell yn y cytser, ond mae rhaid defnyddio telesgop sylweddol i'w arsyllu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. tt.50–53
  2. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. tt.153–154 a 163
  3. "Ursa Minor", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 9 Ebrill 2025
  4. 4.0 4.1 4.2 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. tt.2006–2026 (yn Saesneg)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]