Seren y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Polaris, neu Seren y Gogledd, mewn llun dynnwyd drwy delesgop.

Seren o'r ail faintioli yw Seren y Gogledd, neu Polaris, sydd yn ymddangos yn agos i begwn wybrennol gogleddol yr awyr nos.

Mae'r enwau Seren y Pegwn a Seren y Pegwn Gogleddol hefyd yn cael eu defnyddio. Mae'r enw Lladin Polaris yn dod o Stella Polaris (sef seren y pegwn). Enw arall ydy Alpha Ursae Minoris (neu α UMi), am mai hi yw'r seren ddisgleiriaf yng nghytser Ursa Minor, yr Arth Fach.[1][2][3]

Lleoliad yn awyr y nos[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleoliad Polaris yn awyr yr nos, a sut i'w ganfod gyda'r Pwyntyddion.

Mae Polaris yn hawdd i'w ganfod yn rhan ogleddol y wybren drwy ddefnyddio y ddwy seren ar ochr orllewinol Yr Aradr, Dubhe a Merak, sydd yn cael eu galw y Pwyntyddion. Mae'r ddwy seren yn pwyntio yn syth at Polaris, sydd tua phum gwaith y pellter rhwng y sêr. Er bod Polaris un o'r sêr mwyaf adnabyddus yn yr awyr nos, nid ydyw'n un o'r disgleiriaf: mae tua 50 seren yn ymddangos yn ddichgleiriach na Polaris.

Mae Polaris islaw'r gorwel pan y'i gwelir o hemisffer deheuol y byd, ac felly yn amhosibl i'w weld.

Polaris a Phegwn Wybrennol y Gogledd[golygu | golygu cod y dudalen]

Trwy hap a damwain mae Polaris yn ymddangos yn agos i begwn wybrennol gogleddol. Ar hyn o bryd mae'r seren yn llai na 0.8 gradd o'r pegwn, ond mae'r pellter yn newid yn araf iawn o ganlyniad i symudiad echelin y Ddaear achoswyd gan effaith disgyrchiant y Lleuad ar y Ddaear. Mae agosrwydd Polaris i'r pegwn wedi creu lle pwysig i'r seren mewn morwriaeth, a Seren y Morwyr oedd un hen enw arno.

Oherwydd ei agosrwydd i'r pegwn wybrennol gogleddol, dyw Polaris ddim yn symud llawer pan fo'r Ddaear yn troi yn ddyddiol ar ei hechelin. Mae'r seren yn ymddangos fel petai'n symud mewn cylch bach o amgylch y pegwn yn unig.

Mae'n bosib gweld Polaris bron o unrhyw fan yn hemisffer gogleddol y Ddaear. Mae'r seren i'w gweld bron uwchben i arsyllwr yn sefyll ar Begwn y Gogledd. I berson yn agos i gyhydedd y Ddaear mae'r seren bron ar y gorwel gogleddol, weithiau uwch y gorwel, weithiau yn machlud yn ystod ei chylch bach dyddiol o amgylch y pegwn wybrennol. O unrhyw fan arall yn hemisffer gogleddol y Ddaear, mae uchelder Polaris uwchben y gorwel bron yn hafal i'r lledred lleol. Felly mae mesur pellter Polaris uwch y gorwel yn gallu rhoi y lledred lleol.

Does dim seren ddisglair cyffelyb i Bolaris yn agos i begwn wybrennol deheuol. Y seren weladwy i lygaid noeth agosaf i begwn y de ydy Sigma Octantis (σ Oct), seren o faintioli 5.5 sydd 1.1 gradd o'r begwn.

Natur y seren[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod un seren i'w gweld gan y llygad noeth, mae Polaris mewn gwirionedd yn gyfundrefn o bum seren o leiaf yn cylchdroi o amgylch eu hunain. Mae'r seren ddisgleiriaf o rhain, Alpha Ursae Minoris Aa, yn llawer iawn ddisgleiriach na'r lleill. Seren orgawr yw'r seren hon, sydd yn seren newidiol o'r fath Cepheid, ond mae'r newidiadau mewn disgleirdeb yn eithaf bach. Mae'r gyfundrefn yn disgleirio ar gyfartaledd o faintioli 1.98 yn olau gweladwy.

Mae gyfundrefn sêr Polaris tua 434 o flynyddoedd goleuni o'r Ddaear.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf.  Tudalennau 37, 51–53 a 186.
  2. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts.  Tudalennau 163–164.
  3. Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0.  Tudalennau 2009–2025. (Yn Saesneg.)
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.