Yr Arth Fawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ursa Major)
Neidio i: llywio, chwilio
Cytser Ursa Major, neu'r Arth Fawr, yn awyr y nos.

Ursa Major (Lladin: Arth Fawr) neu'r Arth Fawr yw un o'r cytserau enwocaf yn awyr y nos. Mae'r cytser yn cynnwys rhan sylweddol o'r wybren gogleddol.[1][2]

Cytser Ursa Major mewn ffurf arth yn atlas sêr y seryddwr Hevelius o'r flwyddyn 1690. (Mae'r darlun yn dangos y wybren fel y mae hi'n dangos ar glôb wybrennol gyda chwith a'r dde wedi eu'i cyfnewid.)

Y cytser[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr oedd cymdeithasau hynafol yn credu bod sêr yn y rhan yma o'r wybren yn amlinellu patrwm arth gyda chynffon hir. Enwir ardal yma o'r awyr yr Arth Fawr, neu Ursa Major yn Lladin, i wahaniaethu rhwng efe a Ursa Minor, yr Arth Fach. UMa ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngladol.

Oherwydd ei leoliad eithaf agos i begwn wybrennol y gogledd, mae Ursa Major yn ambegynol o rhan eang o hemisffer gogleddol y byd. Mae hyn yn golygu bod y cytser yn wastad uwchben y gorwel yn Ewrop a Gogledd America, a byth yn machlud.

Lleolir nifer o alaethau eithaf disglair yn Ursa Major, yn cynnwys Messier 81, Messier 82 a Messier 101. Oherwydd bod y cytser yn eithaf pell o'r Llwybr Llaethog yn yr awyr, mae'r nifer o glysterau sêr a nifylau disglair yn isel. Mae'r nifwl planedol Nifwl y Tylluan, M97, i'w weld yn Ursa Major.[3]

Fe ddewiswyd ardal bach yn Ursa Major am gyfres estynedig o arsylliadau yn 1995 gyda'r Telesgop Gofod Hubble. Adnbyddir y data hyn fel Maes Dyfn Hubble. Wnaeth yr arsylliadau argraff mawr ar ymchwil yn ymwneud â galaethau pell.

Yr Aradr[golygu | golygu cod y dudalen]

Adnabyddir y saith seren disgleiriaf yn Ursa Major fel Yr Aradr oherwydd roedd pobl canrifoedd yn ôl yn gweld patrwm aradr amaethyddol. Mae'r enw Saith Seren y Gogledd hefyd yn cael ei defnyddio yn Gymraeg. Mae enwau eraill yn cynnwys Y Llong Foel, Llun Y Llong, Yr Haeddel Fawr, Y Sospan, Jac a'i Wagen, a Men Carl.[4]

Saith seren Yr Aradr yng nghytser Ursa Major.

Adnabyddir y saith seren heddiw fel Dubhe, Merak, Phad (neu Phecda), Megrez, Alioth, Mizar a Alkaid (neu Benetnash) mewn sawl iath yn ôl eu hen enwau Arabaidd. Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), γ (Gamma), δ (Delta), ε (Epsilon), a η (Eta) yn cael eu defnyddio yn ôl cyfunfrefn y hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer; felly mae Dubhe yn cael ei alw fel Alffa Ursae Majoris (neu α UMa), Merak fel Beta Ursae Majoris (neu β UMa), ag ati.[3]

Mae'r ddwy seren ar y pwynt gorllewinol, Dubhe a Merak, yn cael eu galw'n Pwyntwyr, Pwyntyddion[1] neu'r Cyfeirwyr[2] oherwydd mae nhw'n pwyntio at Seren y Gogledd (Polaris).

Y saith seren yn yr Aradr yw[3]:

Enw Bayer Enw
traddodiadol
Mantioli
ymddangosol

(gweladwy)
Math
sbectrol
Alpha Ursae Majoris (α UMa) Dubhe 1.81 K0 II
Beta Ursae Majoris (β UMa) Merak 2.37 A1 V
Gamma Ursae Majoris (γ UMa) Phad (Phecda) 2.44 A0 V
Delta Ursae Majoris (δ UMa) Megrez 3.30 A3 V
Epsilon Ursae Majoris (ε UMa) Alioth 1.79 A0
Zeta Ursae Majoris (ζ UMa) Mizar 2.40 A2 V
Eta Ursae Majoris (η UMa) Alkaid (Benetnash) 1.87 B3 V

Seren lluosg ydy Mizar gyda dwy seren yn ymddangos trwy telesgop bach. Ond mae sbectrosgopau yn dangos bod y ddwy eu hunain yn sêr deuaidd. Mae seren o'r enw Alcor hefyd i'w gweld yn agos i Mizar gyda llygaid noeth.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. pp. 50–53. 
  2. 2.0 2.1 Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. pp. 153–154, 163. 
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Robert, Burnham (1978). Burnham's Celestial Handbook 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. pp. 1922–2005. ISBN 0-486-23673-X Check |isbn= value: checksum (help).  (Yn Saesneg.)
  4. Jones, Bryn (2009). "Names of Astronomical Objects Connected With Wales" (HTTP). http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/namesobjects.html. Adalwyd 29 Tachwedd 2015. (Yn Saesneg.)
Saturn template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.