Ursa Major
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Rhan o | hemisffer wybrennol y gogledd ![]() |
Yn cynnwys | Big Dipper ![]() |
Enw brodorol | Great Bear ![]() |
![]() |

Cytser mawr a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Ursa Major neu'r Arth Fawr.[1][2] "Ursa Major" yw'r ymadrodd Lladin am "yr arth fwyaf"; mae hyn yn ei wahaniaethu oddi wrth Ursa Minor ("yr arth leiaf"), sy'n gytser llai amlwg. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[3] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922. UMa ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.

Y cytser
[golygu | golygu cod]Oherwydd ei leoliad eithaf agos i begwn wybrennol y gogledd, mae Ursa Major yn ambegynol o rhan eang o hemisffer gogleddol y byd. Mae hyn yn golygu bod y cytser yn wastad uwchben y gorwel yn Ewrop a Gogledd America, a byth yn machlud.
Lleolir nifer o alaethau eithaf disglair yn Ursa Major, yn cynnwys Messier 81, Messier 82 a Messier 101. Oherwydd bod y cytser yn eithaf pell o'r Llwybr Llaethog yn yr awyr, mae'r nifer o glysterau sêr a nifylau disglair yn isel. Mae'r nifwl planedol Nifwl y Tylluan, M97, i'w weld yn Ursa Major.[4]
Fe ddewiswyd ardal bach yn Ursa Major am gyfres estynedig o arsylliadau yn 1995 gyda'r Telesgop Gofod Hubble. Adnabyddir y data hyn fel Maes Dyfn Hubble. Wnaeth yr arsylliadau argraff mawr ar ymchwil yn ymwneud â galaethau pell.
Yr Aradr
[golygu | golygu cod]Adnabyddir y saith seren disgleiriaf yn Ursa Major fel Yr Aradr oherwydd roedd pobl canrifoedd yn ôl yn gweld patrwm aradr amaethyddol. Mae'r enw Saith Seren y Gogledd hefyd yn cael ei defnyddio yn Gymraeg. Mae enwau eraill yn cynnwys Y Llong Foel, Llun Y Llong, Yr Haeddel Fawr, Y Sospan, Jac a'i Wagen, a Men Carl.[5]

Adnabyddir y saith seren heddiw fel Dubhe, Merak, Phad (neu Phecda), Megrez, Alioth, Mizar a Alkaid (neu Benetnash) mewn sawl iaith yn ôl eu hen enwau Arabaidd. Mae'r llythrennau Groeg α (Alffa), β (Beta), γ (Gamma), δ (Delta), ε (Epsilon), a η (Eta) yn cael eu defnyddio yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer; felly mae Dubhe yn cael ei alw fel Alffa Ursae Majoris (neu α UMa), Merak fel Beta Ursae Majoris (neu β UMa), ag ati.[4]
Mae'r ddwy seren ar y pwynt gorllewinol, Dubhe a Merak, yn cael eu galw'n Pwyntwyr, Pwyntyddion[1] neu'r Cyfeirwyr[2] oherwydd maen nhw'n pwyntio at Seren y Gogledd (Polaris).
Y saith seren yn yr Aradr yw[4]:
Enw Bayer | Enw traddodiadol |
Mantioli ymddangosol (gweladwy) |
Math sbectrol |
---|---|---|---|
Alffa Ursae Majoris (α UMa) | Dubhe | 1.81 | K0 II |
Beta Ursae Majoris (β UMa) | Merak | 2.37 | A1 V |
Gamma Ursae Majoris (γ UMa) | Phad (Phecda) | 2.44 | A0 V |
Delta Ursae Majoris (δ UMa) | Megrez | 3.30 | A3 V |
Epsilon Ursae Majoris (ε UMa) | Alioth | 1.79 | A0 |
Zeta Ursae Majoris (ζ UMa) | Mizar | 2.40 | A2 V |
Eta Ursae Majoris (η UMa) | Alkaid (Benetnash) | 1.87 | B3 V |
Seren lluosog ydy Mizar gyda dwy seren yn ymddangos trwy telesgop bach. Ond mae sbectrosgopau yn dangos bod y ddwy eu hunain yn sêr dwbl. Mae seren o'r enw Alcor hefyd i'w gweld yn agos i Mizar gyda llygaid noeth.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. tt. 50–53.
- ↑ 2.0 2.1 Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. tt. 153–154, 163.
- ↑ "Ursa Major", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 9 Ebrill 2025
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. tt.1922–2005 (yn Saesneg)
- ↑ Jones, Bryn (2009). "Names of Astronomical Objects Connected With Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol (HTTP) ar 2015-09-18. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015. (yn Saesneg)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Ursa Major", Awyr Dywyll Cymru