Sgwrs:Yr Arth Fawr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl yr erthygl[golygu cod]

Mae'r mwyafrif helaeth o Wicipedias eraill wedi defnyddio enwau eu hieithoedd eu hunain am Ursa Major fel teitl i'w herthyglau, ee Wicipedia Gwyddeleg: An Béar Mór. Ddylwn ddefnyddio'r term Cymraeg Yr Arth Fawr felly am deitl yr erthyl hon, neu a ydyw'n fwy cyffredin i gyfeirio at Ursa Major fel Ursa Major yn y Gymraeg? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2.29.172.50 (sgwrscyfraniadau) 19:12, 14 Gorffennaf 2014‎

Cytuno. Yn ogystal mae gan Eiriadur yr Academi yr enwau canlynol am y Plough/Big Dipper (sef y saith seren fwyaf disglair): yr Arad[r], yr Haeddel, y Sosban, y Llong Foel, Llun y Llong, Jac a'i Wagen (yn y canolbarth), Sêr Llong, yr Haeddel Fawr. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:38, 14 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]