Hydra (cytser)
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
![]() |
- Peidiwch â chymysgu y cytser hwn ag y cytser Hydrus.
Cytser mawr a welir yn awyr y nos yn hemisfferau wybrennol y gogledd a'r de, yn croesi'r cyhydedd wybrennol, yw Hydra neu y Ddyfrsarff.[1]
Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest. Hydra yw'r mwyaf o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
Creadur tebyg i neidr ym mytholeg Roeg oedd yr Hydra. Mae un myth yn adrodd stori mai neidr ddŵr oedd yr Hydra. Anfonodd y duw Apolon frân i nôl dŵr, a daeth y frân â'r neidr yn ôl mewn cwpan. Alltudiodd Apolon y frân, y cwpan a'r neidr i'r awyr, lle cawsant eu trawsnewid yn gytserau – Corvus (brân), Crater (cwpan) a Hydra ei hun. Mewn myth arall, yr Hydra oedd enw'r anghenfil gyda llawer o bennau a laddwyd gan Heracles.[2]
