Neidio i'r cynnwys

Crater (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Crater
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Crater. "Crater" yw'r gair Lladin sy'n cyfateb i'r gair Groeg κρᾱτήρ (krater), sef llestr a ddefnyddwyd i gymysgu gwin a dŵr. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Crater

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Corvus and Crater", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 3 Ebrill 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]