Crux
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1590s ![]() |
Enw brodorol | Southern Cross ![]() |
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Crux (hefyd Croes y De neu'r Groes Ddeheuol).[1] Er mai dyma'r cytser lleiaf o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922, mae'n hawdd ei adnabod oherwydd disgleirdeb ei phedair prif seren, sy'n amlinellu siâp croes. "Crux" yw'r gair Lladin am "groes".

Roedd y sêr hyn yn hysbys i Roeg yr Henfyd, ac fe'u restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest, er mai dim ond fel rhan o'r cytser Centaurus.[2] Yng nghanrifoedd dilynol collodd pobl yn Ewrop olwg ar y cytser oherwydd effaith blaenoriad y cyhydnosau, sy'n achosi symudiad graddol yn safle'r pegwn wybrennol yn erbyn y sêr. Dim ond yn ystod yr 16g y cawsant eu hailddarganfod gan forwyr yn mentro i'r de. Dangoswyd Crux gyntaf yn ei safle cywir ar glôb wybrennol gan Petrus Plancius yn 1598.
Mae'r sêr disgleiriaf wedi'u henwi trwy ddefnyddio llythrennau Groegaidd a ffurf Lladin genidol y cytser, Crucis. Cru yw'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser. Alpha Crucis, neu α Cru, felly yw'r seren ddisgleiriaf yn y cytser. Defnyddir yr enw Acrux yn aml am Alffa Crucis, ond mae'r tarddiad ddim yn un hen iawn. Beta Crucis (β Cru), Gamma Crucis (γ Cru) a Delta Crucis (δ Cru) yw'r sêr eraill yn batrwm y groes.
Mae Crux yn cynnwys rhan o'r Llwybr Llaethog, a felly mae nifer o nifylau a chlystyrau sêr yn y cytser. Un o'r nodweddion amlycaf yw'r nifwl tywyll o'r enw'r Sach Glo, sy'n edrych i'r llygad noeth fel parth du, tywyll, yn y Llwybr Llaethog. Ymddangosir y cwmwl nwy a llwch oer hwn yn ddu oherwydd bod y llwch sydd yn wasgaredig trwyddo'n amsugno golau sêr sydd tu ôl.
Ymhlith y cystyrau sêr yn y cytser yw NGC 4755, sydd yn cael ei adnabod yn boblogaidd fel y Blwch Gemau.
-
Cytser Crux yn dangos nifwl tywyll y Sach Glo
-
Clwstwr agored NGC 4755, adnabyddir fel y Blwch Gemau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geiriadur yr Academi | The Welsh Academy English-Welsh Dictionary". geiriaduracademi.org. Cyrchwyd 2025-01-03.
- ↑ "Canis Major", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 4 Ebrill 2025