Gwregys Orïon
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | asterism ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | Mintaka, Alnilam, Alnitak ![]() |
Cytser | Orïon ![]() |
![]() |
Gwrthrych seryddol sydd yn rhan o gytser Orïon yw Gwregys Orïon,[1] a adwaenir hefyd wrth yr enwau traddodiadol (hynafiaethol erbyn hyn) Y Groes Fendigaid, Llathen Fair, Y Tri Brenin a Llathen Teiliwr.[2] Mae'n cynnwys y tair seren lachar Altinac, Alnilam a Mintaca sy'n ffurfio llinell ar draws canol y cytser. Yn hemisffer y Gogledd mae'r tair seren hyn yn fwyaf gweladwy yn gynnar yn y nos yn ystod y gaeaf, yn enwedig ym mis Ionawr am oddeutu 9 o'r gloch y.h.[3] Mae cytser Orïon ei hun yn un o'r gwrthrychau seryddol amlycaf, ar ôl yr Arth Fawr, yn bennaf oherwydd amlygrwydd tair seren y "gwregys".
Ym mytholeg yr Henfyd, tybid fod y tair seren yn cynrychioli gwregys y duw Groegaidd Orion.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J. Silas Evans, Seryddiaeth a Seryddwyr (Wrecsam, 1923)
- ↑ Traditional Names of Astronomical Objects (in Wales) Archifwyd 2015-09-18 yn y Peiriant Wayback ar wefan Bryn Jones.
- ↑ Orion[dolen farw] Adalwyd 28 Tachwedd 2011