Cyhydedd wybrennol

Oddi ar Wicipedia
Ar hyn o bryd mae'r cyhydedd wybrennol ar oledd tua 23.44° i'r plân ecliptig. Mae'r ddelwedd yn dangos y berthynas rhwng gogwydd echelinol y Ddaear (neu letrawsedd), echel gylchdro, a phlân orbitol .

Y cyhydedd wybrennol yw cylch mawr y sffêr wybrennol ddychmygol ar yr un plân â chyhydedd y Ddaear. Mae'r plân cyfeirio hwn yn sail i'r system gyfesurynnau cyhydeddol. Mewn geiriau eraill, mae'r cyhydedd wybrennol yn amcanestyniad haniaethol o'r cyhydedd daearol allan i'r gofod.[1] Oherwydd gogwydd echelinol y Ddaear, mae'r cyhydedd wybrennol ar hyn o bryd ar oledd tua 23.44° o'r ecliptig (plân orbit y Ddaear). Mae'r gogwydd wedi amrywio o tua 22.0° i 24.5° dros y 5 miliwn o flynyddoedd diwethaf.[2]

Byddai rhywun yn sefyll ar gyhydedd y Ddaear yn dychmygu'r cyhydedd wybrennol fel hanner cylch yn pasio trwy'r anterth, y pwynt yn union uwchben. Wrth i'r person symud tua'r gogledd (neu'r de), mae'r cyhydedd wybrennol yn gogwyddo tuag at y gorwel cyferbyn. Diffinnir y cyhydedd wybrennol i fod yn anfeidrol o bell (gan ei fod ar y sffêr wybrennol); felly, mae pennau'r hanner cylch bob amser yn croesi'r gorwel i'r dwyrain ac i'r gorllewin, waeth beth yw safle'r person ar y Ddaear. Wrth y pegynau, mae'r cyhydedd wybrennol yn cyd-daro â'r gorwel seryddol. Ar bob lledred, mae'r cyhydedd wybrennol yn arc neu'n gylch unffurf oherwydd waeth pa mor bell mae person oddi wrth plân y cyhydedd wybrennol, mae'r y cyhydedd wybrennol ei hun yn anfeidrol o bell.[3]

Mae gwrthrychau seryddol ger y cyhydedd wybrennol yn ymddangos uwch y gorwel o'r mwyafrif o lefydd ar y ddaear, ond maent yn ymddangos uchaf (cyrraedd eu hanterth) ger y cyhydedd. Ar hyn o bryd mae plân y cyhydedd wybrennol yn torri trwy'r cytserau hyn:

  • Virgo (yn cynnwys pwynt cyntaf Libra)
  • Serpens (caput)
  • Ophiuchus
  • Serpens (cauda)
  • Aquila
  • Aquarius

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Pegwn wybrennol
  • Cylchdroi o amgylch echel sefydlog (pegwn)
  • Sffêr wybrennol
  • Gogwyddiad
  • System gyfesurynnau cyhydeddol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Celestial Equator". Cyrchwyd 5 August 2011.
  2. Berger, A.L. (1976). "Obliquity and Precession for the Last 5000000 Years". Astronomy and Astrophysics 51 (1): 127–135. Bibcode 1976A&A....51..127B.
  3. Millar, William (2006). The Amateur Astronomer's Introduction to the Celestial Sphere. Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-67123-1.