Gwregys Orïon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwregys Orion)
Llun o Wregys Orion

Gwrthrych seryddol sydd yn rhan o gytser Orion yw Gwregys Orïon[1], a adwaenir hefyd wrth yr enwau traddodiadol (hynafiaethol erbyn hyn) Y Groes Fendigaid, Llathen Fair, Y Tri Brenin a Llathen Teiliwr.[2] Mae'n cynnwys y tair seren lachar Altinac, Alnilam a Mintaca sy'n ffurfio llinell ymddangosiadol ar draws canol y cytser. Yn hemisffer y Gogledd mae'r tair seren hyn yn fwyaf gweladwy yn gynnar yn y nos yn ystod y gaeaf, yn enwedig ym mis Ionawr am oddeutu 9 o'r gloch y.h.[3] Mae cytser Orïon ei hun yn un o'r gwrthrychau seryddol amlycaf, ar ôl yr Arth Fawr, yn bennaf oherwydd amlygrwydd tair seren y "gwregys".

Ym mytholeg yr Henfyd, tybid fod y tair seren yn cynrychioli gwregys y duw Groegaidd Orion.

Sêr y gwregys[golygu | golygu cod]

Altinac[golygu | golygu cod]

Alnilam[golygu | golygu cod]

Mintaka[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. Silas Evans, Seryddiaeth a Seryddwyr (Wrecsam, 1923).
  2. Traditional Names of Astronomical Objects (in Wales) Archifwyd 2015-09-18 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Bryn Jones.
  3. Orion[dolen marw] Adalwyd 28/11/2011
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.