Sirius

Oddi ar Wicipedia
Sirius
Enghraifft o'r canlynolseren ddeuol, navigational star Edit this on Wikidata
Rhan oHecsagon y Gaeaf, Triongl y Gaeaf Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSirius A, Sirius B Edit this on Wikidata
CytserCanis Major Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear8.6 ±0.04 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Paralacs (π)379.21 ±1.6 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol−5.5 ±0.4 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Goleuedd25.4 Edit this on Wikidata
Radiws1.711 Edit this on Wikidata
Tymheredd9,797 Kelvin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o Sirius recordiwyd gyda Telesgop Gofod Hubble yn dangos y cydymaith o ddisgleirdeb gwan, Sirius B, i'r gwaelod ar y chwith. Effaith adeiledd sydd yn dal ail ddrych y telesgop yw'r batrwm croes.

Seren ddisgleiriaf yn wybren y nos yw Sirius, gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o −1.46.[1][2] Mae hi oddeutu 8.6 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd yng nghytser Canis Major. Adnabyddir hefyd fel Alffa Canis Majoris (α CMa).[2]

Sirius yng nghytser Canis Major

Hanes a mytholeg[golygu | golygu cod]

Mae'r enw Sirius yn dod o'r Groeg hynafol Σείριος (Seirios) sydd yn golygu tanbaid. Adnabyddir Sirius hefyd fel Seren y Ci oherwydd y cysylltiad gyda'r cytser Canis Major, y Ci Mawr. Roedd gan yr Eifftiaid hynafol fytholeg eang yn ymwneud a Sirius, ac yr oedd codiad y seren ychydig cyn yr Haul yn dynodi'r cyfnod o'r flwyddyn pan oedd Afon Nîl yn gorlifo. Fe galwodd y Groegwyr hynafol y cyfnod hwn dyddiau'r cŵn.[3]

Yn 2016 cydnabyddodd yr Undeb Seryddol Rhyngwladol yr enw Sirius fel un swyddogol.[4] Mae'r enw wedi cael ei ddefnyddio yn Gymraeg ers canrifoedd.[5]

Natur y seren[golygu | golygu cod]

Mae Sirius yn seren ddeuol, gyda un o'r cydrannau, Sirius A, yn llawer iawn mwy disglair na'r ail, Sirius B. Gyda dosbarth sbectrol o A1V, mae Sirius A yn ymddangos gyda lliw gwyn i'r llygad noeth pan yn uchel yn yr awyr nos. Mae gan Sirius A fàs 2.12 gwaith màs yr Haul.[6]

Seren gorrach gwyn yw Sirius B gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 8.44. Gallai Sirius B fod yn anodd i'w weld trwy rhai telesgopau seryddwyr amatur oherwydd effaith golau Sirius A. Mae'r ddwy seren yn cylchdroi dros gyfnod o 50 mlynedd. Mae'r pellter rhwng y ddwy yn newid o 8.1 i 31.5 gwaith y pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear, oherwydd eu cylchdroeon hirgrynion. Mae gan Sirius B fàs 1.03 gwaith màs yr Haul.[6]

Y seren yn y wybren[golygu | golygu cod]

Ymddangosir Sirius yn agos i gytser Orion yn y wybren, a mae Sirius yn hawdd i'w ganfod trwy ddilyn llinell trwy tair seren wregys Orion i'r de-ddwyrain.

Lleolir yr Haul yn wrthgyferbyniol i Sirius yn y wybren ar ddechrau mis Ionawr, oherwydd symudiad y Ddaear o amgylch yr Haul, a felly rhwng Ionawr a Mawrth mae Sirius yn rhan nodadwy o'r awyr nos am oriau ar ôl iddi nosi. Mae hwn yn golygu bod Sirius i'w weld gorau yn ystod y gaeaf o hemisffer gogleddol y byd, ac yn ystod haf hemisffer y de.

Gyda gogwyddiad o −17°, dydy Sirius byth yn codi mwy nag 22° uwchben y gorwel o Gymru. Felly, o Gymru, pan mae Sirius i'w weld yn yr awyr nos, gwelir uwchben gorwel y de, de-ddwyrain neu dde-orllewin. Oherwydd ei fod yn aml yn isel yn yr awyr, ac oherwydd ei ddisgleirdeb, mae Sirius yn aml yn dangos newidiadau yn ei liw a disgleirdeb i arsyllwyr yng Ngogledd Ewrop–effaith atmosffer y Ddaear yw hwn a dim byd i wneud â'r seren ei hun.

Mae Sirius y seren ddisgleiriaf o'r Ddaear oherwydd ei agosrwydd cymharol a'r ffaith bod y seren yn allyrru llawer o oleuni ei hun.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. Hoffleit, Dorrit; Jaschek, Carlos (1982). The Bright Star Catalog. New Haven, Connecticut: Yale University Observatory. (4ydd argraffiad) (Yn Saesneg.)
  2. 2.0 2.1 "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017. (Yn Saesneg.) Ymchwiliad am Sirius yn adnodd Simbad.
  3. Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 120–129. (Yn Saesneg.)
  4. IAU Division C Working Group on Star Names (2016). "IAU Catalog of Star Names" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-12. Cyrchwyd 2 Ebrill 2017. Unknown parameter |author-url= ignored (help) (Catalog swyddogol enwau traddodiadaol sêr yr Undeb Seryddol Rhyngwladol.)
  5. Roberts, Robert (1816). Daearyddiaeth. Caer. Tudalen 16.
  6. 6.0 6.1 Kaler, James B. (6 Medi 2009). "Sirius". Stars (yn Saesneg). Prifysgol Illinois. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-08. Cyrchwyd 17 Mawrth 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am seren. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.