Hemisffer y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hemisffer y gogledd)

Cyfesurynnau: 45°0′0″N 0°0′0″E / 45.00000°N 0.00000°E / 45.00000; 0.00000

Hemisffer y Gogledd, mewn glas
Llun o Hemissfer y Gogledd a gymerwyd uwch ben Pegwn y Gogledd

Hemisffer y Gogledd yw'r hanner hwnnw o'r blaned sydd i'r gogledd o'r cyhydedd. Ystyr llythrenol y gair 'hemisffer' ydyw "hanner sffêr"; gall hefyd olygu'r hanner hwnnw o'r sffêr wybrennol sydd i'r gogledd o'r cyhydedd wybrennol.

Oherwydd gogwydd echelinol y Ddaear, mae'r gaeaf yn Hemisffer y Gogledd yn para o heuldro'r gaeaf (neu Alban Arthan; 21 Rhagfyr fel arfer) hyd at Gyhydnos Mawrth (neu Alban Eilir; 23 Mawrth). Yr Arctic yw'r ardal hwnnw sydd i'r gogledd o Gylch yr Artic. Elfen nodweddiadol o'i hinsawdd yw gaeafau oerion a hafau claear. Ceir dyodiad hefyd ar ffurf eira. Nodwedd arall o Hemisffer y Gogledd yw nad yw'r haul yn machlud ar adegau yn y gaeaf nac yn codi'n yr haf. Mae nifer y dyddiau yma'n ddibynol ar eich lleoliad: maent yn para am ychydig ddyddiau ar Gylch yr Arctig, ond am fisoedd cyfan ym Mhegwn y Gogledd.

Rhwng Cylch yr Arctig a Throfan Cancr, gorwedd Cylchfa Tymherus y Gogledd (Northern Temperate Zone). Mae'r gwahaniaeth yma rhwng gaeaf a haf, yn gyffredinol, yn fychan, a cheir tywydd mwyn, yn hytrach nag eithafiol. Fodd bynnag, gall hinsawdd dymherus olygu tywydd na ellir ei ddarogan. Mae'r rhanbarthau trofannol (rhwng Trofan Cancr a'r Cyhydedd) fel arfer yn boeth drwy gydol y flwyddyn, gyda llawer o law ym misoedd yr haf a thymor sych yn y gaeaf.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Ymddengys y gair "hemysperie" am y tro cyntaf ar ddiwedd y 14g; Lladin yw ei darddiad: hemisphaerium sydd yn ei dro'n tarddu o'r gair Groeg hemisphairion: "hemi"- "hanner" a "sphaira" neu "sffere". "Llaw chwith" (go + cledd) yw ystyr llythrennol y gair "gogledd", gan y byddai'r gogledd ar y chwith i'r person sy'n wynebu'r dwyrain, a chofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y 12g yn Llyfr Llawysgrifau Consistori Llandaf.

Yr effaith clocwedd[golygu | golygu cod]

Yn Hamisffer y Gogledd, mae gwrthrychau sy'n symud ar draws neu uwch ben wyneb y Ddaear yn dueddol o droi i'r dde oherwydd yr 'effaith coriolis'. O ganlyniad mae llifoedd o aer neu ddŵr, yn aml yn dueddol o droi'n glocwedd. Gwelir hyn ar ei orau ym mhatrymau llif cefnforoedd rhannau gogleddol o Gefnfor yr Iwerydd a'r Cefnfor Tawel.

Am yr union yr un rheswm, mae llif aer hefyd yn dilyn yr un patrwm, gan lifo mewn cylch clocwedd. Mae llif clocwedd yn aml yn golygu pwysedd uchel yn Hemisffer y Gogledd. I'r gwrthwyneb, mae aer sy'n codi yng ngogledd y Ddaear (ac sy'n creu gwasgedd isel) yn dueddol o ddenu aer ato mewn patrwm gwrth-glocwedd. Mae seiclonau trofannol a stormydd trofannol (ill dau'n systemau pwysedd isel) yn troelli'n wrth-glocwedd yn Hemisffer y De.

Clocwedd hefyd yw symudiad y cysgod ar gloc haul sydd wedi'i leoli yn Hemisffer y Gogledd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]