Fitamin

Cyfansoddyn organig yw fitamin, sydd yn angenrheidiol ar lawer o organebau byw. Fel arfer mae'r organeb yn derbyn y fitamin drwy ei ddiet ond mae rhai eithriadau megis fitamin D sy'n dod o belydrau is-goch yr haul ac yn cael ei greu yn y croen.
Dosberthir fitaminau yn ôl yr hyn maen nhw'n ei wneud (eu gweithgaredd cemegol a biolegol yn hytrach na sut maen nhw wedi cael eu creu (hy eu gwneuthuriad strwythurol).
Mae dau fath o fitaminau: y rhai sy'n hydoddi mewn dŵr a'r rhai hynny sy'n hydoddi mewn olew.
Ei bwrpas[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae llawer o effeithiau biocemegol i fitaminau yn y corff, a gallent gael effaith ar: hormonau (e.e. fitamin D), gwrthocsidant (e.e. fitamin E) a rheolwyr celloedd a datblygiad meinwe'r corff. Mae teulu fitaminau B yn rhagflaenu ensymau a chydensymau ('coenzymes') sy'n gweithio fel catalyddion y metaboledd. Yr adeg hon, maent yn clymu eu hunain yn sownd i'r ensymau a chânt eu galw yn gwrpiau prosthetig e.e. biotin, sy'n cynorthwyo ensymau i greu 'fatty acids' .
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yr hen Eifftiaid yn deall gwerth bwyta iau er mwyn gwella rhai afiechyd e.e. dallineb nos (nyctalopia); erbyn hyn fe wyddom mai diffyg fitamin A yw'r rheswm. Roedd fforwyr a morwyr y 17g hefyd yn deall pwysigrwydd ffrwythau ffres i gadw'r clefri poeth (neu 'sgyrfi') i ffwrdd; diffyg fitamin C oedd y tu ôl i'r cwbwl.
Blwyddyn eu darganfod | Fitamin | Tarddiad |
---|---|---|
1909 | Fitamin A (Retinol) | Olew penfras |
1912 | Fitamin B1 (Thiamin) | Reis |
1912 | Fitamin C (Asid Ascorbig) | Lemonau |
1918 | Fitamin D (Calciferol) | Olew penfras |
1920 | Fitamin B2 (Ribofflafin) | Wyau ieir |
1922 | Fitamin E (Tocopherol) | Gwenith, Cosmetic and Iau |
1926 | Fitamin B12 (Cyanocobalamin) | Iau |
1929 | Fitamin K (Phylloquinone) | Alfalfa |
1931 | Fitamin B5 (Asid Pantothenig) | Iau |
1931 | Fitamin B7 (Biotin) | Iau |
1934 | Fitamin B6 (Pyridocsin) | Reis |
1936 | Fitamin B3 (Niacin) | Iau |
1941 | Fitamin B9 (Asid Ffolig) | Iau |