Briallen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Briallen
Briallu gwyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Primulaceae
Genws: Primula
Rhywogaeth: P. vulgaris
Enw deuenwol
Primula vulgaris
Huds.

Planhigyn bach o'r genws Primula yw'r friallen. Mae gan friallu gwyllt flodau melyn a briallu'r ardd flodau porffor, melyn, coch, pinc neu wyn. Maen nhw'n hoffi tymheredd o tua 20 °C. Yr enw Lladin yw Primula vulgaris (L.): [primula = bachigol o prima (= y cyntaf) yn nodi mai hwn yw un o flodau cynta'r gwanwyn; vulgaris = cyffredin].

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Blodau melyn gwelw yn tyfu'n dusw a dail crychog blewog. I'w gweld rhwng Chwefror ag Ebrill.

Cynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r friallen yn tyfu ar elltydd cysgodol o dan goed yn aml, neu yng ngodreuon gwrychoedd.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o lindys gwyfynod o'r teulu Noctuidae yn bwyta briallu fel rhan o'u deiet: isadain felen fach Noctua comes; yr isadain felen leiaf Noctua interjecta, clai engreilyd Diarsia mendica, Xestia triangulum; Xestia baja; Xestia xanthographa

Enwau Cymraeg eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

[D. Davies a Gwen Aubery]: Briallen gyffredin, Brillig, Llysiau Pawl, Symwl, Symylen, Tewbanog fechan, Blodau mis Mawrth (Caerfyrddin), Brieill [enw barddonol], Dail y Dewbanog [Llysieu-lyfr Teuluaidd, R. Price & E. Griffiths, 3dd Arg., 1890]. Amrywiaethau Enwau: [G. Aubery]: Briellu (Mon, Caerfyrddin, Penfro, Brycheiniog, Morgannwg), Brellu (Arfon a Meirion), Brallu (Arfon), Biarllu (Ceredigion), Bierllu (Caerfyrddin a Morgannwg), Briella/Brialla (Morgannwg), Brigellu (Penfro), Mrialle (Maldwyn), MiariluiMerllu/Merllig (Ceredigion),114ier1lu (Ceredigion, Caerfyrddin).

Tarddiad yr enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bosibl i'r gair 'briallen' darddu o 'Brial'. Esboniad mwy modern, ond camarweiniol, yw mai Ebrill-lu oedd y gwreiddiol. Noder bod Symwl, Symylen a Tewbanog fechan hefyd yn enwau ar Friallu Mair (P. veris). Mae'n werth nodi nad yw'r elfen graidd a roes 'briallen' i ni wedi ei phriodoli yn gyson i Primula vulgaris: cawn brial y gors Parnassia palustris, briallu'r hwyr Oenothera biennis ac yn y Llydaweg brulu (bysedd y cŵn).

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gair 'briallen' sydd wrth wraidd yr enwau: Brilley (Swydd Amwythig), Cae Briallu dir y Gyfyng, Llanfihangel y Pennant, Arfo Bryn Briallu. .0 “Cti (]'-‘ [cf. Fferm a Thyddyn 25, Steffan ab Owain]

Enw personnol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Briall, a Briallu yn enwau ar ferched.

Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Coel mewn gwahanol rannau o Loegr, ac a gofnodwyd o'r Iwerddon hefyd, yw ei bod yn anlwcus dod a Briallu i'r ty pan fydai ieir/chwiaid/gwyddau yn gori. Gallasai hynny effeithio ar nifer yr wyau a ddeorai, h.y.: os deued ag un neu ddwy o Friallu i'r ty yna dim ond yr un nifer o gywion a ddeorai[1].
  • Cofnododd George Ewart Evans[2] y traddodiad hwn yn East Anglia, gan bwysleisio y credai pobl na ddylsid dod a llai na 13 o wyau i'r ty gyda'i gilydd. Y rheswm am hynny yw mai 13 yw'r nifer arferol o wyau osodid dan iar i ddeor. Roedd pob Briallen felen Telly yn cyfateb i'r eyw back melyn a ddisgwylid o bob wy. Ni feiddid dod a llai i'r ty na'r nythaid wyau!
  • Briallu a blodau'r afallen/coed ffrwythau ymysg y blodau aberthid gan y Derwyddon[3]
  • Crewyd Blodeuwedd, Gwraig Lleu Llaw Gyffes o 9 blodyn, a chyfeirir at y Dderwen, Banad ac Erwain, a chredir mai'r 6 arall oedd Clychau'r yd, Ffa'r gors, Danadl, Y Draenen, y Gastanwydden a'r Friallen[4]
  • Cyfeiria T. Gwynn Jones[5] at y defnydd o Lysiau Pawl fel un o rifer fawr o wahanol flodau, llysiau, llwyni [did] o gwmpas tai a bythynod i amddiffyn rhag drwg.
  • Ar un adeg defnyddid Briallu i wneud posel caru[6]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bu'r adroddiad allan o: "Cerddi Crwys" (1920) - Y Border Bach, yn boblogaidd iawn mewn gwahanol Eisteddfodau lleol dros y blynyddoedd. Cynhwysa'r penillion:

Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai'r ardd yn ddwy,
Roedd gan fy mam ei "border" bach
O flodau perta'r plwy.

Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna'n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i'w rhan.

....Dwy neu dair briallen ffôl,
A daffodil, bid siwr,
A'r cyfan yn y "border" bach
Yng ngofal rhyw "hen wr."

"Fardd y blodau, wele fi"
Medd Briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawl) ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a chawod.
Eifion Wyn.

  • Disgrifir y Friallen mewn iaith "flodeuog" iawn gan Richard Morgan yn ei aillyfr[7]

"Holo, Frieili yswil, ai chwi sy yna'n preswylio? Chwychwi oedd arnaf eisie weled yn bennaf. Am danoch chwi y meddyliwn pan yn troi i mewn i'r wig. Ceisiwn chwi dan bob llwyn a basiwn, a holwn, "P'le mae'r Brieill, a hi'n ganol Ebrill?" A thyma lle ceir chwi, flodau gweddeiddlwys, mewn cilfach neilltuedig, wedi gosod eich pabell wrth sawdl uchelgraig, a than ortho'r dryslwyn, yn yr encilion! Croeso flodau anadi-ber, wyneb-diws. Proffwydi ydych yn cyhoeddi o'r diffaethwch fod gwyntoedd y gogledd a'r dwyrain ar fedr ymgilio, a blinderau'r gaeaf gyda hwy; a fod mwynderau'r haf yn gwneud eu ffordd yn of ar edyn y deheuwynt."

Arferion plant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yn Ysgol Gynradd Clynnog yn y 1950au roedd yn ddefod flynyddol bron, yn fuan wedi i'r plentyn cynta reportio ei fod "..wedi gweld Briallu yn tyfu" yn y fan a'r fan i'r plant a'r athrawes fynd and dro i gynnal gwers natur yri yr awyr agored. Esgus i fynd a'r dosbarth allan am awyr iach fyddai hyn ac, yn naturiol, thema'r wers fyddai arwyddion y gwanwyn. Edrychid am flodau a blagur; gwrandewid ar adar yn canu a byddai pawb wrth eu boddau petae oen bach cynnar i'w weld. Cesglid sypiau o Friallu a blodau eraill y gwanwyn (Fioledau, Eirlysiau a.y.b.) i'w gosod mewn potiau bychain ar fwrdd natur yr ysgol ac ar ddesg yr athrawes. Go brin y digwydda hynny heddiw i'r un graddau oherwydd prinhaodd blodau gwylltion y gwrychoedd yn gyffredinol erbyn hyn a derbyniwyd cyngor gan naturiaethwyr o'r 1970au ymlaen i beidio a'u pigo. [8]
  • Briallu yn ffefrynnau gan genod bach i'w pigo oherwydd maent yn tyfu'n sypiau cyfleus, yn ffurfio sypun crwn hardd yn y llaw ac mae eu lliw a'u persawr mor hyfryd.

Meddyginiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Prin yw'r dystiolaeth lafar am ddefnyddio briallu at ddibenion meddyginiaethol, ond cofiai gwraig o Gellifor, Rhuthun, fel y byddai ei mam yn arfer mudferwi briallu mewn menyn gwyrdd i wneud eli at fân friwiau...[9].
  • Hyd nes darganfod cyffuriau modern roedd tân iddwf, neu "tân iddew" fel y'i gelwir yn y Gogledd , yn afiechyd peryglys a chymharol gyffredin. Byddai i'w gael ar yr wyneb yn aml iawn. Defnyddid rhai meddyginiaethau llysieuol traddodiadol i drin yr anhwylder, er enghraifft, y ddeilen gron, briallu, llysiau pen tai, yr ysgawen, helogan a "llygaid eirin" (llugaeron).... Gwnâi Mrs Jones, Rhos Ddu, Ynys, yn Eifionnydd eli gyda blodau briallu i glirio'r ysmotiau llidus a geid ar y gwddf a mannau eraill ar ôl tân iddew[10].
  • Mae y llysieuyn hwn yn gyfaill mawr i'r gewynau; felly, os bydd gwendid a chryndod mewn aelod, gwna ddaioni annrhaethol. Byddai yn dda i ddynion sy'n diodde o'r parlys ei ddefnyddio yn fynych. Hefyd mae yn dda rhag pigiadau yn yr ochrau, os cymerwch ddyrnaid o'r llysieuyn hwn, a'r un faint o chwerwlys (wormwood), a'u rhoi ar y tân, rhwng dwy lechen gareg, nes y poethant yn dda, a'u rhoi [ar] yr ochr y byddo poen ynddi, a gorwedd arnynt yn y gwely; os gwynt fydd yno, byddant yn sicr o'i chwalu, ond os fflameg (inflammation) fydd yno, ychwanega at y poen; ac felly bydd raid i chwi ymofyn am feddyginiaeth arall." [11].
  • "Y gwraidd wedi eu [sic] sychu a'u gwneud yn llwch sy'n rhagorol i beri tisian dibaid heb niwaid; hwy a dynant lawer o ddwrf a llysnafedd o'r pen. Y mae yn dda fel hyn i wendidau y manwynau, ond dylid ei arfer gyda gofal. Dram a haner o'r gwraidd wedi eu tynu yn y cynhaeaf a bar gyfog cryf."[12]
  • Cyfeirir at ddefnyddiau meddyginiaethol "Briallu - flowers of the primrose family, h.y. heb wahaniaethu oddiwrth Friallu Mair, ac ynghymysg a llysiau eraill, yn A Welsh Leech Book[13] tudalen 175 ("eli gwaew"), 185 ("chwydd or killa"), 261 ("rhag medrondod, a thrymder, a gwewyr o'r pen, a cholli lleuer y Ilygaid a disynhwyro yn y menydd"), 596 ("i beri i ddyn ddywedyd"). Dyddia'r llawysgrifau gwreiddiol o.... [gwirio].
  • Yn nyddiau cynnar meddygaeth ystyrid y Friallen yn ddefnyddiol i iachau poen cyhyrau, y parlys a'r gowt. Roedd Pliny yn ei chanmol am hynny. Dywed Gerard: Primrose tea, drunk in the month of May is famous for curing the phrensie, ac yn ôl Culpepper: "Of the leaves of Primrose is made as fine a salve to heal wound as any I know". Mewn meddygaeth lysieuol fodern (sic.) mae trwyth o'r gwraidd yn dda i wella cur pen[14]

Addurn[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae'r briallu un o'r blodau a ddefnyddir, ynghyd a Chenin Pedr, a.y.b. i addurno Eglwysi a Chapeli adeg y Pasg.

Symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Friallen, oherwydd mai blodeuo yn y gwanwyn wna, yn arwydd o ieuenctid. Yng Ngogledd Cymru plenid gwahanol flodau ar feddau i arwyddo oed y claddedig - blodau'r gwanwyn: Briallu/Eirlysiau/Fioledau ar fedd plentyn; Rhosyn/Roced/Gwyddfid i oedolyn a'r Tansi/Ryw/Serenllys i'r hen[15]

Blodyn gardd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Friallen yn un o flodau'r "border bach" mewn hen erddi bythynod Cymreig.
  • Erbyn hyn ceir nifer o fathau o Friallu garddwriaethol - lliwiau pinc a phorffor fel arfer (Polyanthus)

Teithi tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Yn Iwerddon ar ddydd Calan Mai clymid pelenni o Friallu ar gynffonnau'r gwartheg i gadw gwrachod draw[16]
  • Ar Ynys Manaw ar noson Calan Mai, fel mewn gwledydd eraill yn Ewrop, defnyddid blodau melyn i warchod y tai a'r gwartheg. Ar ddydd Calan Mai gwelir Briallu a Gold y gors mewn potiau bychain yn ffenestri swyddfeydd ac ar gownteri siopau yn y trefi ym Manaw[17].

Nodweddion ecolegol diddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodweddir teulu'r briallu gan ddwy ffurf i'r blodyn, sef bod canol rhai blodau yn diwb gwag, tra bo'r tiwbiau yng nghanol y blodau eraill wedi eu llenwi a phen y stigma benywaidd - sydd yn edrych fel pen pin. Dim ond un math o flodyn geir ar un planhigyn, a'r math arall ar blanhigyn gwahanol. Darwin oedd y cynta i egluro pam fo gwahaniaeth o'r fath. Esboniodd mai dim ond pryfed a thafodau hir fedr gyrraedd y neithdar yng y tiwbiau, a bod ffurf y blodau yn adewyrchu'r ffaith bod rhannau gwrywaidd a benywaidd y blodau yn gallu bod mewn llefydd gwahanol o fewn y tiwbiau rhwng un planhigyn a'r llall. Bydd hyn yn sicrhau mai, fel arfer, dim ond paill o blanhigyn gwahanol fedr beillio unrhyw flodyn. Cyflwynir hyn fel un o'r enghreifftiau safonol o groes-beillio i fyfyrwyr mewn gwersi llysieuegol.

  • Mae dadl ynglyn ag effeithiau'r arfer o bigo blodau gwylltion ar rywogaethau "poblogaidd" fel y Briallu. Roeddent yn prinhau yn y 1960au/70au a thybiai rhai mai gor-gasglu oedd yn gyfrifol. Mae'n debyg nad dyna'r prif reswm ond yn hytrach dadwreiddio'r planhigion i'w trosgiwyddo i erddi (sy'n anghyfreithlon bellach), a cholli cynefin.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Roy Vickery, A Dictionary of Plant-Lore, (1995)
  2. The Pattern Under The Plough, (1971)
  3. Marie Trevellyan, Folklore and Folk Stories of Wales, (1909), tud. 96
  4. Chwedlau'r Cymry am Flodau, Alison Bielski, (1973), tud.7
  5. Welsh Folklore and Folk Customs, (1929), tud.175
  6. Arferion Cam, (19..), Catrin Stephens, tud. 89
  7. Llyfr Blodau (1910), tud. 14
  8. atgofion Twm Elias
  9. Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (2017) (Gwasg y Lolfa), tud. 293
  10. Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (2017) (Gwasg y Lolfa), tud. 254
  11. Llysieu-lyfr Teuluaidd, R.Price & E. Griffiths, 3dd Arg.,1890
  12. Llysieuaeth Feddygol; Thomas Parry, Glan y Gors; tud. 15; Cyh. H.Humphreys, Caernarfon (18..)
  13. Gol.: T. Lewis, (1914), rhifau
  14. A Modern Herbal, Mrs M. Grieve, (1931, Arg. 1977 dan olygyddiaeth Mrs C. F. Leyel, tud. 657
  15. A Pocket Guide to the Customs and Traditions of Wales, (1991), Trefor. M. Owen, tud.82
  16. The Folklore of Plants, Margaret Baker, (1969)
  17. A Dictionary of Plant-Lore, R. Vickery, (1995), tud. 294