Llin

Oddi ar Wicipedia
Llin
Blodau'r llin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Malpighiales
Teulu: Linaceae
Genws: Linum
Rhywogaeth: L. usitatissimum
Enw deuenwol
Linum usitatissimum
L.

Planhigyn o'r teulu Linaceae yw llin (Linum usitatissimum). Fe'i dyfir yn gnwd er mwyn defnyddio'i ffibrau i wneud edau lliain ac i wneud olew o'i hadau.[1]

Arferid trin llin yn y llindy.

Mae'r llin yn blanhigyn cenedlaethol Belarws ac yn un o symbolau Gogledd Iwerddon.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Tardda'r gair "llin" o'r Lladin, linum. Mae gan y ieithoedd Celtaidd eraill enwau o'r un eirdarddiad. Mae'r ffurf Gymraeg gynharaf yn dyddio o'r 9g, a cheir y sillafiad "llin" yng Nghyfreithiau Hywel Dda.[2] Gellir defnyddio'r gair "llinad" (neu'r ffurf unigol "llinhedyn") i gyfeirio at hadau'r llin, er enghraifft olew llinad. Mae'r gair hwn, sy'n gyfuniad o "llin" a "had", yn dyddio'n ôl i'r 13g.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) flax (plant). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2014.
  2.  llin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Medi 2014.
  3.  llinad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Medi 2014.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: