Moronen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Moron
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Daucus
Rhywogaeth: D. carota
Enw deuenwol
Daucus carota
L.
Daucus carota subsp. maximus

Llysieuyn yw moron (Daucus carota is-r. sativus). Y gwraidd sydd fel arfer yn oren yw'r rhan a fwyteir. Mae'n frodorol o Ewrop a de-orllewin Asia.

Mae 'moron' (unigol: 'moronen', er mai yn y lluosog y cyfeirir at y llyseun fel rheol) yn cael eu trin fel llysiau yr un rhywogaeth â moron gwyllt, Daucus carota (neu ar lafar, Moron y maes). Mae hyn yn croesi yn rhwydd iawn gyda'r foronen bwytadwy, fel y gall gwraidd gwyn ymddangos yn achlysurol rhwng y moron wedi'u tyfu. Mae moron yn gyfoethog o beta carote, y mae'r corff yn ei drawsnewid i fitamin A.

Mae moron yn cynnwys Beta-carotene, sy'n dda i'r iechyd. Yn yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddodd llywodraeth Prydain y propaganda bod moron yn eich helpu i weld yn y tywyllwch. Ond roedd hyn er mwyn cuddio oddi wrth y Natsïaid y ffaith eu bod nhw wedi datblygu RADAR i ddarganfod yr awyrennau Almaenig. [1]

Tyfu[golygu | golygu cod y dudalen]

Moron mewn amrywiaeth o liwiau

Mae'r foronen yn blanhigyn eilflwydd sy'n perthyn i'r gangen umbellifer o deulu rhywiogaethol Apiaceae. Bydd yn cychwyn ei dyfniant drwy dyfu tisw o ddail tra'n creu'r prif wreiddyn fawr. Gall cyltifar sydyn-dwf aeddfedu o fewn 3 mis (90 diwrnod) o hau'r hadyn, tra bod cyltifar araf-dwf yn cael ei medi ar 4 mis (120 diwrnod). Mae'r gwraidd yn cynnwys mesur uchel o carotene alpha a beta, ac yn ffynhonnell dda o Fitamin K a Fitamin B6. Serch hynny, mae'r grêd bod bwyta moron yn gwella golwg yn y nos yn fyth a ledaenwyd gan lywodraeth Prydain yn yr Ail Ryfel Byd er mwyn cam-arwain yr Almaen ar ei gallu milwrol.

Mae moron yn lysiau gwerthfawr iawn i dyfu yn yr ardd neu mewn cynwysydd ar y balconi. Gall y gwreiddyn gael ei hau ym mis Ionawr. Yn yr hau cynnar, mae'n bosib y bydd blodau'n dal yn digwydd yn yr un flwyddyn. Maent yn dechrau tyfu'n eithaf cynnar yn y tymor ac yn gymharol fuan gall un gymryd ychydig ohonynt bob dydd i fwyta'n amrwd. A po fwyaf y mae un wyth allan o'r cae, y gorau y bydd y rhai eraill yn tyfu.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair Cymraeg "moron" o'r Saesneg cynnar, "moren". Mewn Hen Saesneg gan bod moron yn arferol yn lliw gwyn ar y pryd ac yn anodd i'w gwahaniaethau rhag panasen, fe alwyd y ddau lysieuyn yn moru neu more sydd o'r Proto-Indo-Ewropeeg *mork- "gwreiddyn bytadwy", cf. yr Almaeneg Möhre a roddodd i ni'r Cymraeg, "morn".

Ceir y cyfeiriad cynharaf i "moron". Gelwyd hwy hefyd yn llysiau Gwyddelig a hefyd yn panas[1] gan fod y ddau lyseuyn yn debyg iawn o ran lliw a siap hyd nes y 18g wrth i'r planhigyn gael ei ddatblygu a'i gyneuafu fwriadol i arddel y lliw oren.

Defnyddir y gair Möhre yn yr Almaeneg am y llyseun. Mewn sawl iaith megis Iseldireg defnyddir yr un gair â'r gair am "wraidd" am y moron e.e. wortel (Iseldireg).

Daw'r gair carrot yn Saesneg (a roddir hefyd y gair caraits, neu garaits mewn rhai tafodieithau Cymraeg) o'r Ffrangeg Canol carotte, sydd, ei hun yn dod o'r Lladin Hwyr, carōta, o'r Groeg καρωτόν (karōton) sydd ei hun o'r gwraidd Indo-Ewropeeg *ker- (corn), yn sgil ei siâp tebyg i'r corn (mae'r gwraidd *ker hefyd, wrth gwrs, yn rho'r gair 'corn' i ni).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwahanol fathau o foron

Bu'r moron yn tyfu'n wyllt am ganrifoedd, pan ddechreuwyd ei hamaethu ymddengys bod hynny am ei dail persawrus a'i hadau yn hytrach na'r gwraidd, fel sy'n gyffredin heddiw. Canfuwyd hadau moron yn y Swistir a de'r Almaen sy'n dyddio yn ôl i 2000–3000 BC.[2] Mae rhai o berthnasau agos y foronen yn dal i gael eu hamaethu ar gyfer eu dail ac hadau megis; persli, cilantro, coriander, ffenigl, anis, llysiau'r gwewyr a cwmin. Ceir y cofnod cynharaf o'r gwreiddyn mewn ffynhonell Glasurol o'r ganrif 1af OC;roedd y Rhufeiniaid yn bwyta llyseiyn gwrieddyn o'r enw pastinaca,[3] a allai unai fod yn foron neu'n banas, sy'n berthynas agos iddo.

Y gwreiddyn presennol oren yw canlyniad croesffrwythlonni cymharol diweddar. Daeth y gwreiddiau cyntaf o Iran ac fe'u trosglwyddwyd i'r Iseldiroedd gan y VOC yn yr 17g.[4] Gwnaed hyn er mwyn tyfu llyseiyn yn lliw teulu brenhinol y wlad, sef oren. Ond ceir amheuaeth o'r stori yma gan eraill.[5]

Haint a phlâu[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall gwahanol heintiau niweidio cnwd moron. Un o'r bygythiadau mwyaf i'r moron yw'r gwibedyn gwraidd ("root fly", Chamaepsila rosae). Gellir defnyddio rhwydi bach ar raddfa fach er mwyn cadw'r gwibedyn oddi ar y planhigyn. Os yw'r amaethwr yn amaethu'n organig, yna tyfir cnwd arall cryn bellter mewn cae arall er mwyn ogoi trawsmudo.

Mewn achos o ddiffyg cylchdroi cnydau yn ddigonnol, gall nematodau (math o lyngir) hefyd fod yn broblem. Mae yna nifer o nematodau a all achosi niwed i foron. Er mwyn atal neu reoli difrod, mae'n bwysig gwybod pa nematodau sydd yn y ddaear. Gall ymchwil niematode gynnig ateb.[6] Mae yna nifer o fesurau i frwydro yn erbyn neu atal nematodau. Gall, er enghraifft, gwreiddyn nythmau letys (Pratylenchus) gael eu rheoli'n effeithiol trwy dyfu Gold Ffrainc (Tagetes patula). Mae mathau eraill o nematodau angen mesurau eraill.

Mae afiechydon ffwngaidd niweidiol yn gallu difetha'r dail: "Clwy Tatws Cynnar" (Alternaria dauci), Alternaria radicina, "Pydredd Porffor Gwraidd Betys" (Helicobasidium brebissonii) a "Llwydni Erysiphe heraclei.

Ar bridd tywodlyd, gall y nematod Meloidogyne chitwoodi a'r natatig Meloidogyne fallax ymddangos ymddangos.

Maethlondeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhai mesurau maeth 100 gram o foron:[7]

Gwerth Ynni 173 kJ (41 kcal)
Carbohydrad 9,6 gram
Protein 1 gram
Braster 0,2 gram
Fitamin C 5,9 mg
Beta-caroten 8 mg
Fitamin B1 0,07 mg
Fitamin B2 0,06 mg
Calsiwm 33 mg
Haearn 0,3 mg

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  2. https://en.wikipedia.org/wiki/Carrot#CITEREFRubatskyQuirosSiman1999
  3. https://books.google.co.uk/books?id=O-t9BAAAQBAJ&pg=RA4-PA387&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false
  4. http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/7188969.stm
  5. http://www.carrotmuseum.co.uk/history5.html
  6. http://eurofins-agro.com/nl-nl/product/bodemgezondheid/aaltjesalert
  7. (Saesneg)USDA. "USDA National Nutrient Database for Standard Reference". Archifwyd o y gwreiddiol ar 2015-03-03.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am moronen
yn Wiciadur.