Uchelwydd

Oddi ar Wicipedia
Uchelwydd (Viscum album) yn tyfu ar Fedwen Arian

Uchelwydd yw'r enw cyffredin am grŵp o blanhigion lled-barasitig sy'n tyfu ar goeden neu brysgwydd. Esblygodd parasitiaeth naw gwaith yn unig ym myd planhigion; o'r naw hynny, mae'r uchelwydd parasitig wedi esblygu'n annibynnol pum gwaith: Misodendraceae, Loranthaceae, Santalaceae (a ystyriwyd yn flaenorol o deulu gwahanol yr Eremolepidaceae), a Santalaceae (a arferai gael ei ystyried fel rhan o deulu'r Viscaceae).

Mae uchelwydd yn blanhigyn gwenwynig sy'n achosi problemau gastro-berfeddol difrifol gan gynnwys poen yn y bol a dolur rhydd ynghyd â churiad calon isel.

Paratowyd rhannau helaeth o'r canlynol gan grwp o naturiaethwyr Cymdeithas Edward Llwyd yn nechrau'r 1990au dan ochl rhagflaenydd Prosiect Llên Natur ar y pryd, sef Llên y Llysiau.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Planhigyn lled-arysol sydd i'w gael ar frigau coed eraill (y bisgwydden, coed drain gwynion, coed poplys a'r afal (yn anaml iawn ar derw[1]).

Tiriogaeth[golygu | golygu cod]

Bu'r uchelwydd yn hynod o gyson a sefydlog ei ddosbarthiad yng Nghymru a Phrydain dros ganrifoedd fel yr awgrymir sawl gwaith isod. Beth yw'r rhesymau am hyn? O ran y tymor hir (dwy fileniwm) mae amlygrwydd yr uchelwydd ym Môn a swydd Gaer (isod eto) mewn ffynonellau cynnar yn codi cwestiynau diddorol i'w gwyntyllu, yn achos Môn yn y cofnod paill. A oedd yr un cysondeb dros amser ar draws Ewrop? Efallai bod ei diriogaeth yn y byd wedi ei ehangu gan bobl trwy ei ddefnyddio i wneud glud dal adar.[1]

Enwau[golygu | golygu cod]

Yr Ieithoedd[golygu | golygu cod]

Lladin

Viscum album

Cymraeg

Uchelwydd, Uchelfa, Uchelfar, Uchelawg, Pren-awyr, Uchelawr, Holliach, Heonllys, Uchelfel, Gwysglys, Gwysgonllys.

Saesneg

Mistletoe

Llydaweg

Huel-varr (uchel frig)

Gwyddeleg

drualus (cusanu rhn dan yr uchelwydd duine a phógadh faoin drualus)

Gaeleg yr Alban

t iuile-iochd – "yr holl iach".

Tarddiad yr Enwau a'u helfennau[golygu | golygu cod]

Vicsum album: Y gludiog gwyn – oherwydd ei ffrwyth gwyn gludiog.

Elfennau
  • Uchel-: mae nifer o enwau Cymraeg yn cychwyn gyda'r elfen hon, ac fe ellir egluro'r elfen yn hawdd, drwy fod y llysieuyn yn tyfu ar goed bob tro;
  • -awg (-og), terfyniad ansoddeiriol;
  • -gwydd, "coeden";
  • -bar/-far (amrywiaeth -fel (?)), "brig, copa".

Noder fod yr enw Llydaweg a nodir yn union yr un tarddiad. Yr enw cynharaf i'w nodi o'r ffurfiau hyn yw uchelfel (Peniarth 204 – tua 1500). Mae holliach yn enw diweddarach wedi ei lunio mae'n debyg i gyd fynd â'r syniad ffug Dderwyddol am rym iachusol y planhigyn. Tybed ai enwau diweddar yw'r enwau eraill Cymraeg a nodir?

  • Mistletoe: Yr enw Saesneg yn cyfeirio at y ffaith fod y planhigyn yn cael ei ledaenu gan faw adar: mistel – "baw" + tan (toe), "brigyn". Roedd hyn yn ffaith hysbys ers y cyfnod clasurol – Aristoteles[2]

Llên Gwerin[golygu | golygu cod]

Priodolid rhin arbennig y planhigyn hwn i'r cyfnod clasurol. Yng ngwaith Plinius (23-79) y ceir y cyfeiriad pwysicaf am hyn. O'r gwaith hwnnw y deilliodd cymaint o'r traddodiadau "dysgedig" a gwerinol wedi hynny. Cysyllta ef y planhigyn hwn â'r Derwyddon, a byddai'r rheiny yn rhoi gwerth mawr ar y planigyn hwn pe tyfai ar dderwen, ac ystyrid bod grym iachau mawr i'r planigyn. Gwnaed yn fawr o hyn gan glerigwr o Sais William Sturkeley (1687–1765) a fu'n fwy cyfrifol na neb am ymestyn y rhamant hwn, ac a dyfai uchelwydd yn ei ardd yn swydd Lincoln ar hen afallen yng nghanol cylch o goed "derwyddol".

Uchelwydd Viscum album yn tyfu ar dderwen yn Ffrainc, Gorffennaf 2008

Credid y byddai grym serchfrydig i'r planigyn, a hynny sydd wedi esgor ar yr arfer sy'n parhau o gwmpas y Nadolig o gusanu o dan frigyn y planhigyn. Mae y traddodiadau mwyaf am y planhigyn hwn yn deillio o ardaloedd lle mae i'w gael yn tyfu.

Yng Nghymru dim ond ar gyrion dwyreiniol y wlad y'i ceir. Noda Roy Vickery [3] gofnod o 1856 yng Nghonwy lle yr oeddid wedi stwffio darn o uchelwydd i fyny simnai i gadw ysbrydion drwg draw.

Meddygaeth[golygu | golygu cod]

Gwasgaru gwlybyroedd a meddalu pen-dyn gyda resin a chwyr yn enwedig gyda chalch a gwin angen ffynhonnell. Yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llewyg[2]

Mae'r gwyddfid yn toxic agent posibl mewn rhai meddyginiaethau perlysieuol sydd yn cael eu amau o achosi hepatitis yn y sawl a'i gymer[4]

Ychydig o achosion fu o wenwyno gan wyddfid, ond ystyrir rhywogaethau eraill o'r teulu (Loranthus a Phoradendron) yn wenwynig iawn. Mae dail a ffrwythau Viscum yn cynnwys protinau tocsig basaidd a elwir yn viscotoxins, sydd yn gymysgiad o polypeptides o dras agos i'w gilydd.

Symptomau gwenwyn
  • Datblygodd gi Griffon symptomau nerfol ar ôl bwyta tusw o wyddfid gydag aeron arno. Bu'n ysgwyd ei ben a chollodd reolaeth ar ran ôl y corff. Bu farw'r anifail 5 awr yn ddiweddarach ar ôl cynhyrchu llawer o boer, iwrin o liw tywyll a cholli tymheredd corff a phwls yn raddol.
  • Mewn achos arall datblygodd gi gyfnodau hir o gyffro, a bu'n sensitive iawn i unrhyw gyffyrddiad a'r abdomen.
  • Achosion o wenwyno mewn pobl yn fwyaf tebygol o ddigwydd i blant adeg y Nadolig. Simptomau achosion difrifol yn cynnwys gwefusau gwelw, y Ilygaid yn ymfflamychu, cannwyll y llygaid yn fawr, pwls yn araf, anadlu yn llafurus, hallucinations a coma. Canlyniad bwyta 3-4 aeronen yw symptomau ysgafn yr uchod gyda gastroenteritis yn dilyn dogn fawr ohonynt. Dylid ysgogi cyfog yn y claf[4]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Llwyn epiffitig rhywiau ar wahan sy'n cael ei beillonni gan bryfed. Cymerir y ffrwyth gan adar megis brych y coed ond ni allant ei lyncu, ac mae hynny'n ffafriol i'r planhigyn sydd yn gorfod sychu ei big gan blannu y cnawd fiscaidd gyda'i hedyn i hollt yn rhisgl y goeden lle'r egina.[1]

Defnydd arall[golygu | golygu cod]

Symboliaeth

Cysylltwyd yr uchelwydd â'r Nadolig ers degawdau, ac fe hewlir iddo gysylltiadau â'r ŵyl honno yn mynd yn ôl i ddefodau mileniau yn ôl. Defnyddiodd y Derwyddon ef i ddefodau o'r math, er mai digon amheus yw llawer o'r hyn a ysgrifennwyd i'r perwyl hwn. Credid mae'n debyg fod yr uchelwydd, o'i gymryd fel rhan o ddiod, yn adfer ffrwythlondeb anifeiliaid hysb.

Cafwyd tystiolaeth prin ond digon gogleisiol o bresenoldeb y planhigyn hwn yng ngholuddyn Dyn Lindow ("y Ilyn du", ger Wilmslow) ar ffurf gronynau o baill (dim hadau wedi eu nodi). O ble daeth y paill hwn? Rhan o reset meddyginiaethol? ond ni chafwyd yr un defnyn arall o'r planhigyn. Un posibiliad yw mai wedi eu hanadlu oedd y gronynau ychydig cyn marwolaeth y dyn fel aberth, ac os felly, gellir amseru ei ddienyddiad i fisoedd Mawrth neu Ebrill. Mae'n gefnogaeth hefyd i'r ddamcaniaeth mai rhan o ddefod y gwanwyn oedd yr aberth hwn[5].

Ni ddylid anghofio cysylltiad symboliaeth a defodiaeth yr uchelwydd hwnnw sydd yn perthyn I'r derw. Y dderwen oedd fwyaf sanctaidd i'r Derwyddon yn pob son (ee. Stead ac eraill 1986; gweler ysgrif y rhywogaeth honno a phan gafwyd y planhigyn arysol rhyfedd hwn, gydag aeron gwyn lloeraidd, ar dderwen yn hytrach nac ar yr afallen, atgyfnerthwyd ei sancteiddrwydd.

Pliny (XV1, 249) sydd yn rhoi i ni'r adroddiad mwyaf cynhwysfawr o ddefodau'r Derwyddon yr oedd yr uchelwydd yn rhan ohonynt. Fe'u cesglir yn ôl yr awdur Rhufeinig ar 6ed diwrnod y lloer (felly meddai y mae'r offeiriaid hyn yn mesur eu blwyddyn). Dewisient y diwrnod hwn gan fod y lloer, er nad eto yn ei lawn dwf, eto yn gryf ei ddylanwad. Galwant yr uchelwydd yn eu hiaith yr holl iach.

Noda‘r dyddiadurwr William Bulkeley o Fôn yn y 18g. iddo blannu hadau uchelwydd ar wahanaol fathau o goed gan gynnwys derw:

4th. Ebrill 1748 The Wind E. blowing fresh and cold & generally Sun shiny & dry all day; Inoculated to day 6 berries of the Misletoe, 4 in the smooth rind of 4 Oaks, one in an Apple tree, & one in an Ash. WB

Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledda o dan y coed, cludant yno ddau darw gwyn a'u cyrn wedi cu rhwymo am y tro cyntaf. Wedi ei wisgo mewn clogyn gwyn, mae offeiriad yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd gyda chryman aur, ac fe'i derbynnir gan eraill mewn clogynnau tebyg. Yna lleddir I gan weddio y bydd y duw yn dychwelyd yr hyn a aberthwyd.

Mae Kendrick 1927 wedi disgrifio tumulus o'r Oes Efydd yn Gristhorpe Scarborough gyda arch o dderw wedi ei orchuddio a changhennau o dderw gyda llwyth o uchelwydd a oedd wedi ymddatgymalu [cadarnhau'r ffynhonnell] yn Stead et al.

Gerddi[golygu | golygu cod]

I'w gael mewn perllanoedd – weithiau wedi ei blannu yno. Ar un adeg gwerthid coed a'r planhigyn eisoes wedi cael ei feithrin amynt[6]

William Salesbury[golygu | golygu cod]

Mae sylwadau William Salesbury ar y planhigyn hwn yn rhai gwerth eu nodi. Mae'n mynd ati'n gywir (yn wahanol i'r ddysg safonol) i grybwyll fod blodau ar y planhigyn hwn: yd y dywaid Phwcsiws [Leonard Fuchs] ni ddwc dim or blodae etto mi welwn arno cibae gwynion gweigion val meint pys y rhein yr oeddwn yn tybieid mae ei vlodae oeddynt. [7]

Gwnaed arolwg gan Plantlife yn 1999 [8] i ddosbarthiad y planhigyn ym Mhrydain. Dangosodd ei fod yn gyffredin iawn o gwmpas ardal Henffordd, gan ymestyn i Gymru, yn enwedig i Went. Ymddengys fod yr hyn a geir gan William Salesbury yn yr 16g yn awgrymu mai tebyg oedd y dosbarthiad y pryd hynny: Byth ni thyf yr vchelfa ar y ddayar anid ymbric yspaddat, efyll neu ellyc prenn ac hyd y dywaid Phwcsius yn enwedic ar y Dderwen yr hyn ni welais i etto, navcyn tyfy ar ytr vn pren y to yma i Lan Gollen.[9]

Sonia hefyd fod y llysieuyn i'w gael o'r Waun hyd Llwydlo – cyffelyb i'r hyn a sylwyd arno gan Plantlife yn 1999[8]. Noder hefyd ei fod yn gywirach na Fuchs yn ei dybiaeth mai hynodrwydd anghyffredin iawn yw cael yr uchelwydd ar dderi (pe tyfai y cyfryw ar dderwen yna fyddai gwerth mawr yn ôl traddodiad Plinius a nodwyd uchod).

Cysylltiadau eco-hanesyddol[golygu | golygu cod]

Mae i'r rhywogaeth hon heddiw ledaeniad Prydeinig ddiddorol. Fe'i ceir yn arbennig ac yn bennaf ar hyd goror y de ac yn ne ddwyrain Lloegr [10]. Crybwyllodd Rackham[11] y gellid rhannu tir ynys Prydain yn dair rhan – sef yr "Henfyd Hynafol" (the Ancient Countryside), yr "Henfyd Cunlluniedig" (the Planned Countryside), a'r Ucheldir. Perthyn gorllewin Cymru i'r trydydd category a dwyrain Cymru i'r ail. Awgrymodd Yalden [12] bod cysylltiad cydrhwng yr Henfyd Hynafol a lledaeniad rhai rhywogaethau sydd yn ddibynol ar barhad eu cynefin dros gyfnod maith. Ymhlith y rhywogaethau sydd yn dangos tiriogaeth sydd yn cyd-ddigwydd a phatrwm y tir hynafol yw'r eos, y pathew, y llygoden gwar melyn a'r uchelwydd.

Ddosbarthiad yr ucheIwydd allan o Perrins

Llyfryddiaeth Rackharn O. (Yalden Perrins (19)),

Harvey & Cohin-Jones DG (1982) Mistletoe Hepatitis 186-187 (yn Cooper & Johnson 1984),

Colin-Jones DG Harvey J (1982) Mistletoe Hepatitis 744-745 (yn Cooper & Johnson 1984),

Britis. 'M edicalJournal 282,

British Medical Journal 284,

Cooper & Johnson (1984) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and Man (HMSO),

Brothwell (1986) The Bob Man and the Archaeology orpeople Cyhoeddiadau'r Amgueddla Brydeinig,

Stead et al (1986).

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiadau Nadoligaidd, pan fo dau berson yn cwrdd o dan brigyn o uchelwydd, disgwylir iddynt gusanu. Daw'r traddodiad hwn o Lychlyn yn wreiddiol. Yn hanes Llychlyn, roedd yn blanhigyn a gynrychiolai heddwch. Pe digwyddai i elynion gyfarfod o dan uchelwydd mewn coedwig, byddent yn rhoi'u harfau o'r neilltu a chynnal cadoediad tan y diwrnod nesaf. Arweiniodd yr arfer hwn i'r traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd.

Cysylltir yr uchelwydd â defodau'r Derwyddon. Yn ôl Plinius yr Hynaf (23-79 OC) yn ei lyfr Hanes Naturiol y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y dderwen a'r uchelwydd yn nefodau'r derwyddon:

Y mae'r derwyddon yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau darw yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r offeiriad, wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â chryman aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.[13]

Ystyrir fod yr uchelwydd yn bwysig i'r Derwyddon am ei fod yn torri rheolau a chonfensiynau (nid yw'n gwreiddio mewn daear fel mae planhigion eraill; mae'n tyfu â'i ben i lawr;

Uchelwydd mewn Afallen yn Essex, Lloegr

mae ei aeron yn wynion yn hytrach na duon neu gochion). Cyffelybir ef i organau rhywiol dyn (angen llun) – gwna hyn y planhigyn yn symbol mwy grymus, yn enwedig ar droiad y rhod. Ni chaniateid mynediad iddo felly i Eglwys oherwydd ei gysylltiadau paganaidd a rhywiol (Twm Elias: angen ffynhonnell).

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Mabberley, D. J. (2008) Mabberleys Plant-book: a portable dictionary of plants, their classification and uses (Gol.3) CUP
  2. 2.0 2.1 Grigson, G. (1234) A Dictionary of English Plant Names Helicon
  3. Vickery, R. (19XX) Oxford Dictionary of Plant lore. OUP
  4. 4.0 4.1 Cooper (1982) Poisonous plants in Britain and their effects on animals and Man. HMSO
  5. Brothwell, X, (1986), The Bog Man and the Archaeology of People. Cyh. Yr Amgueddfa Brydeinig
  6. Mabey, R. (19XX) Flora Britannica
  7. 72b-73a - Llysieulyfr Salesbury (Ll.G.C. 4851)
  8. 8.0 8.1 Briggs, J. (1999) Kissing goodbye to mistletoe: The results of a national survey aimed at discovering whether mistletoe in Britain is in decline. Plantlife
  9. 73a - Llysieulyfr Salesbury (Ll.G.C. 4851)
  10. Perrins 19
  11. Rackham (19XX)
  12. Yalden, D. (Xxxx)
  13. Hanes Naturiol XVI.249, dyfynnwyd gan Gwyn Thomas yn Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).
Chwiliwch am uchelwydd
yn Wiciadur.