Bedwen arian
| Delwedd:Betula pendula Finland.jpg, Betula pendula in Sedovo 1.jpg, Illustration Betula pendula0.jpg | |
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Math | planhigyn defnyddiol |
| Safle tacson | rhywogaeth |
| Rhiant dacson | Bedwen |
| Dynodwyr | |
| Betula pendula | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Fagales |
| Teulu: | Betulaceae |
| Genws: | Betula nana |
| Rhywogaeth: | B. nana |
| Enw deuenwol | |
| Betula pendula Carl Linnaeus | |
Math o fedwen, sef coeden gollddail yw Bedwen arian sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Betulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Betula pendula a'r enw Saesneg yw Silver birch.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Bedwen Arian, Bedw Arian, Bedwen.
Mae'n tyfu i uchder o oddeutu 15 to 25 m (49 i 82 tr) ac ar adegau eithriadol gall dyfu'n 31 metr (102 tr).
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae rhisgl y goeden yn cael ei ddefnyddio i far-cio lledr ac mae’n ddefnydd addas ar gyfer dodrefn, handlenni a theganau. Defnyddid y pren i wneud riliau a bobiniau ar gyfer diwydiant cotwm swydd Gaerhirfryn. Yng ngogledd Ewrop, mae’r goeden yn cael ei thyfu i wneud mwydion. Yn y gwanwyn, mae llawer o sudd yn codi i fyny’r boncyff a gellir ei dynnu a’i ddefnyddio yn yr un ffordd a syryp y fasarnen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
