Sudd

Oddi ar Wicipedia
Sudd oren
Erthygl am sudd ffrwyth yw hon; ceir erthygl arall am y sudd sy'n llifo mewn coeden yma: Sudd (planhigyn).

Diod a wneir o ffrwythau yw Sudd; gellir defnyddio rhan arall o'r planhigyn hefyd. Fel arfer, fe'i ceir trwy falu neu wasgu ffrwythau, heb ddefnyddio gwres. Y mathau mwyaf adnabyddus, efallai, yw sudd oren, sudd afal neu sudd grawnffrwyth.

Gwerthir nifer fawr o wahanol fathau o sudd yn fasnachol. Ceir hefyd sudd afal, grawnwin, mango a llawer o ffrwythau eraill; mae cyfuniadau o sudd gwahanol ffrwythau hefyd yn boblogaidd. Defnyddir sudd hefyd mewn diodydd fel smwythyn.

Chwiliwch am sudd
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.