Smwythyn

Oddi ar Wicipedia
Smwythyn

Diod ddi-alcohol yw smwythyn, (calque o'r Saesneg; esmwyth + bychannig yn) neu'n fwy cyffredin ar lafar, smŵddi sy'n sillafiad yn yr orgraff Gymraeg o'r gair Saesneg wreiddiol. Mae'n gymysgedd o ffrwythau a sudd fel arfer. Mae weithiau'n defnyddio cynhwysion eraill hefyd, megis siocled, menyn cnau mwnci neu hyd yn oed de gwyrdd. Mae llawer o bobl yn defnyddio neu ffrwythau wedi'u rhewi wrth wneud smwythyn er mwyn gwneud diod oer iawn sydd bron yn ddiod iâ. Mae smwythyn yn debyg i ysgytlaeth yn y ffaith bod y ddwy ddiod yn fwy trwchus na sudd ffrwythau, ond yn wahanol i ysgytlaeth does dim cynnyrch llaeth mewn smwythyn fel arfer ac nid yw'n cynnwys hufen iâ.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.