Ysgytlaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Strawberry milkshake.jpg
Ysgytlaeth mefus

Diod melys oer sydd fel arfer wedi'i wneud o laeth neu hufen iâ, a chyflasynnau fel menyn caramel, saws caramel, surop siocled, neu surop ffrwythau, yw ysgytlaeth.

Roeddynt yn wreiddiol yn cael eu gwneud â llaw trwy gymysgu hufen ia a llaeth. Mae modd ei wneud erbyn hyn drwy ychwanegu powdr i laeth ffres a'i gymysgu, a daw rhain mewn nifer o flasau, gan gynnwys siocled, caramel, mefus, a banana. Erbyn hyn, mae nifer o siopau bwyd cyflym yn eu gwneud â pheiriant.

Pan gafodd y term Saesneg "milkshake" ei ddefnyddio gyntaf mewn print yn 1885, diod alcoholig oedd ysgytlaeth.[1] Ond erbyn 1900, roedd y term yn cyfeirio at ddiod oedd yn cael ei ystyried yn 'faethlon', ac erbyn y 1930au, roedd ysgytlaethau wedi troi ddiodydd poblogaidd dros ben.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Flexner, Stuart Berg (1982) Listening to America, Simon & Schuster: New York, p. 178, ISBN 0671248952