Helygen

Oddi ar Wicipedia
Salix
Salix alba 'Vitellina-Tristis'
Morton Arboretum acc. 58-95*1
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Malpighiales
Teulu: Salicaceae
Llwyth: Saliceae[1]
Genws: Salix
L.
Rhywogaethau

Tua 400.[2]
Gweler: Rhestr o goed helyg

Coeden fechan, ysgafn ydy'r helygen (Lladin: salix; Saesneg: willow) a cheir tua 400 gwahanol math[2] o'r coed collddail a llwyni hyn. Y gair lluosog amdani yw helyg fel yn y gân honno gan Meic Stephens: Cwm y Pren Helyg. Mae'r goeden hon yn fwyaf cyffredin mewn tir gwlyb yng ngwleddydd hinsawdd oer Hemisffer y Gogledd. Fel sy'n digwydd yn aml mewn benthyciadau o'r Lladin mae'r ddwy lythyren "s" a "h" yn cyfnewid; benthyciad yw'r gair "helyg" o "salix", felly, diolch i'r ymwelwyr Rhufeinig ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Tyf y rhywogaethau arctig ac alpaidd yn debycach i lwyni isel na choed, e.e. anaml iawn mae'r Salix herbacea yn tyfu'n uwch na 6 cm (2 fodfedd), er ei fod yn lledaenu'n wyllt dros wyneb y tir.

Mae helyg yn croes-ffrwythloni'n hawdd, a cheir llawer o wahanol rywogaethau oherwydd hyn. Mae'n eitha rhwydd creu amrywiad annaturiol ohoni fel a wnaed gyda'r helygen wylofus (Salix × sepulcralis), sydd wedi'u haddasu o'r helygen Peking (Salix babylonica) o Tsieina a'r helygen wen (Salix alba) o Ewrop.

Cynffonau ŵyn bach yn egino ar goeden Salix purpurea

Y blodau[golygu | golygu cod]

Cynffonau Ŵyn Bach

Ymddengys y blodau gwryw a benyw fel cynffonau ŵyn bach ar wahanol blanhigion; tyfant ar ddechrau'r gwanwyn yn aml iawn cyn i'r dail dyfu. Nid oes gan y blodau gwryw na benyw galycs na phistil.

Mathau niferus[golygu | golygu cod]

Ceir sawl math o helygen a bu hynny’n gryn sialens i dacsonomegwyr dros y blynyddoedd oherwydd yr holl amrywiaethau posib. Yn y New Atlas of the British And Irish Flora[3] rhestrir o leia 12 prif rywogaeth, brodorol a chyflwyniedig, ynghyd â nifer o is-rywogaethau a chroesiadau niferus. Golyga hynny bod bron i 30 math o helygen yn tyfu’n wyllt yng Nghymru. Ar ben hynny ceir sawl math o helyg gwiail a dyfir yn fasnachol (am eu gwahanol liwiau) ar gyfer basgedwyr ac mae’r rhywogaethau egsotig a’r holl fathau garddwriaethol nad ydynt (eto) wedi dianc i’r gwyllt yn faes arall.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, fe’i hystyriwyd yn un o’n coed mwyaf defnyddiol – ddim i adeiladu tai a gwneud giatiau – oherwydd dydy’r pren ddim yn ddigon sylweddol na chryf i hynny o bell ffordd. Ond, yn hytrach, i wneud pob mathau o offer[4] megys handlenni morthwylion a bwyelli llaw; meddyginiaethau, gwaith plethu ac mae pren helyg yn enwog iawn i wneud batiau criced.

Gwiail[golygu | golygu cod]

Mewn rhai ardaloedd, lle mae’r tir yn weddol gorsiog, fel yng Ngwent a Gwlad yr Haf, tyfir mathau arbennig o helyg (yr helygen wiail, Salix viminalis, yn bennaf) fel crop, hyd heddiw, i gynhyrchu gwiail i’w plethu’n fasgedi a dodrefn ‘wickerwork’. ayyb. Ar un adeg ceid ‘gwinllan helyg’ bron ym mhob ardal, lle byddid yn bon-dorri helyg yn rheolaidd i gynhyrchu gwiail main ar gyfer basgedwyr proffesiynnol a chrefftwyr eraill cefn gwlad.

Am fasgedi o bob math y byddai’r galw mwyaf ac fe’u gwerthid yn y ffeiriau, marchnadoedd lleol a siopau, e.e: basgedi amaethyddol – i hel tatws a ffrwythau, neu i gario bwydydd anifeiliaid; basgedi marchnad – i arddangos a gwerthu bob dim o fara i bysgod; basgedi tŷ – fel y fasged ddillad, basged wnîo, basged neges, basged y gath a hyd’noed y fasged bicnic i fynd am dro i lan y môr; basgedi ffansi – daeth basgedi addurniadol, wedi eu plethu yn batrymau efo gwiail o wahanol liwiau, yn eu holau yn ffasiynnol iawn yn sgîl yr adfywiad fu ym myd crefftau celfyddydol ers y 1990au.

Defnydd hynafol arall o wiail oedd i wneud clwydi a hefyd plethwaith ar gyfer adeiladu waliau mewn hen dai (wedi eu plastro hefo mwd neu blastar calch). Hefyd cychod gwenyn, cewyll i ddal cimychiaid, rhaffau a fframiau cyryglau – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Byddai cynhyrchu’r holl offer a nwyddau hyn yn rhoi gwaith i fasgedwyr a phlethwyr ac yn sail i ddiwydiant cefn gwlad eitha sylweddol ar un adeg.[5]

Golosg a thanwydd[golygu | golygu cod]

Defnydd arall pwysig o wiail yr helygen yw ar gyfer ei fud-losgi i wneud golosg – ystyrir mai golosg helyg sydd orau ar gyfer arlunio. Ond mae posibilrwydd y daw llosgi helyg yn bwysig mewn cyswllt arall yn y dyfodol, sef fel fel ‘bio-danwydd’. Eisoes cynhaliwyd profion maes ar raddfa helaeth yn Fife yn yr Alban i ymarferoldeb tyfu gwiail helyg ar gylchdro tair mlynedd i gynhyrchu crop i’w losgi mewn boeleri i gynhyrchu gwres[6]‬ . Am fod helyg yn tyfu mor rwydd yng Nghymru, gall ei dyfu fel ‘bio-danwydd’ brofi’n gaffaeliad i’r economi amaethyddol – fel y cynydda pris olew a phetrol yn y dyfodol.[5]

Defnydd meddygol[golygu | golygu cod]

Sonir am nodweddion y goeden hon mor bell yn ôl â 1,700 C.C.[7] Defnyddiwyd ef ledled y byd gan gynnwys y Rhufeiniaid a Brodorion America.

Mae’r helygen yn enwog am ei defnyddiau meddigyniaethol – yn enwedig y rhisgl ar gyfer lleihau gwres twymyn ac atal poen chryd cymalau‭ ‬ayyb. Ceir cofnod cynnar o hynny yn rysetiau Meddygon Myddfai yn y 12g. Y gred oedd bod planhigyn fel yr helygen yn gweithio drwy ‘ddewiniaeth sympathetig’, a bod arwydd o’i werth meddygol yn amlygu ei hun drwy ‘athrawiaeth yr arwyddnodau’ h.y. bod rhyw nodwedd o’r planhigyn yn arwydd o’i ddefnydd. Yn yr achos hwn yr arwydd oedd y cynefin – planhigyn y gwlyptir yn dda i iachau afiechydon godai o effeithiau gwlybaniaeth? Ond bu raid aros tan ddiwedd y 19g i gael gwybod natur y cyffur gweithredol. Erbyn hynny, roedd technegau cemegol wedi datblygu’n ddigon da i bobl fedru dadansoddi a phuro amryw o gemegau meddyginiaethol o blanhigion – gan gynnwys y cemegyn defnyddiol o’r helygen oedd yn lladd poen. Enwyd hwn yn asid salisylig ar ôl yr helygen (‭Salix‬) a daeth ar y farchnad, ar ffurf asid asetyl-salisylig, a than yr enw masnachol Aspirin gyntaf yn 1899.[8] Heb os, Asprin oedd un o ddarganfyddiadau meddygol pwysica’r cyfnod modern ac mae cemegwyr yn dal i ddarganfod defnyddiau newydd‭ ‬iddo hyd heddiw. Mawr yw ein dyled i’r Helygen.[5]

Llên gwerin[golygu | golygu cod]

Mae cryn dipyn o lên gwerin am yr helygen, a llawer ohono yn codi o’r disgrifiad yn Salm 137 o’r Iddewon ynghaeth yn Babilon: ‭Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom,‬ ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’i mewn y crogasom ein telynnau.[9]. A chymaint oedd pwysau’r holl delynnau nes gwyrai’r canghennau tua’r llawr – fel petaent yn wylo. Dyna darddiad y ddelwedd o’r ‘helygen wylofus’ – yn wylo mewn cydymdeimlad â’r Iddewon yn eu caethiwed. Stori dda, ond, gwaetha’r modd, ddim yn hollol iawn. Oherwydd nid yr helygen fyddai ym Mabilon ond y boplysen. Gwnaethpwyd y camgymeriad yn y cyfieithiad gwreiddiol i’r iaith Groeg mae’n debyg[10]. Ond roedd y syniad mai’r helygen oedd ym Mabilon wedi gwreiddio cymaint fel pan ganfyddwyd helygen wylofus go iawn – efo’i changhennau yn plygu’n naturiol tua’r llawr, yn Tsieina, ddiwedd y 17g (daethpwyd â hi i’r wlad yma fel planhigyn gardd yn 1692), fe’i galwyd yn‭ Salix babylonica‬ (er na fu cysylltiad Babilonaidd, botanegol o leiaf, erioed!)

Mae’r cysylltiad rhwng yr helygen a‭ ‬galar‭ ‬neu dristwch yn dal hefo ni – dyma pam y gwelwch ganghennau wylofus yr helygen yn addurn ar gerrig beddau a chardiau cydymdeimlo hyd heddiw.[5]

Cap Gwiail[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru, rhyw ddwy ganrif yn ôl, roedd yn gyffredin i gysylltu’r helygen â thristwch colli cariad. Cyfeiria Marye Trevellyan (1909) at hynny[11], a’r arfer Cymreig o wisgo cap wedi ei blethu o wiail os oeddech wedi cael eich gwrthod gan eich cariad. Roedd arfer tebyg – o yrru ‘ffon wen’ neu damaid o bren collen wedi ei risglo i rywun yr oeddech yn ei wrthod neu ei gwrthod. A hynny am fod chwarae ar eiriau rhwng ‘collen’ a ‘colli’ mae’n debyg.[5]

Cywion gwyddau[golygu | golygu cod]

Anlwc o’r mwyaf yw dod â blodau’r helyg, y ‘cywion gwyddau’ i’r tŷ yn y gwanwyn rhag i hynny amharu ar ddeoriad y cywion gwyddau go iawn dan yr ŵydd[12]. Ceid y goel hon am flodau eraill y gwanwyn hefyd – megis briallu (fyddai’n amharu ar ddeoriad y cywion ieir), ‘cynffonnau ŵyn bach’ (fyddai’n amharu ar lwyddiant yr ŵyna, ayyb). Tebyg mai rhyfygu oeddech wrth ddod â’r blodau hyn i’r tŷ drwy gymeryd y gwanwyn yn rhy ganiataol.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Genus Salix (willows)". Taxonomy. UniProt. Cyrchwyd 2010-02-04.
  2. 2.0 2.1 Mabberley, D.J. 1997. The Plant Book, Cambridge University Press #2: Caergrawnt.
  3. ‭New Atlas of the British and Irish Flora‬ (2002), Preston C D, Pearman D A, Dines T D
  4. ‭Y Crefftwr yng Nghymru ‬(1933), Peate I C
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 Tynnwyd yn helaeth o addasiad o ysgrif ddarlledwyd ar Radio Cymru: ‘Natur Wyllt’, Rhagfyr 2005 a ‘Galwad Cynnar’, Ebrill 8fed, 2006 gan Twm Elias
  6. Willow biofuel ‬(2006),‭ [www.scottishcoal.co.uk]
  7. Gwefan Tour Egypt; adalwyd 17 Medi 2012
  8. ‭Research, The Bayer Scientific Magazine‬ 9, (1999), Zundorf U
  9. ‭Beibl William Morgan ‬(1588)
  10. ‭Oxford Dictionary of Plant Lore‬ (1995), Vickery R.
  11. ‭Folk Lore & Folk Stories of Wales ‬(1909), Trevellyan M.
  12. ‭Discovering the Folklore of Plants ‬(1996), Baker M

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]