Aspirin
Delwedd:Acetylsalicylicacid-crystals.jpg, Aspirin.jpg | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol ![]() |
Màs | 180.042 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₉h₈o₄ ![]() |
Enw WHO | Acetylsalicylic acid ![]() |
Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, llid, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, gout attack, twymyn gwynegon, acute myocardial infarction, clefyd y galon, ffibriliad atrïaidd, acute coronary syndrome ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c ![]() |
Label brodorol | Acidum acetylsalicylicum ![]() |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen ![]() |
Enw brodorol | Acidum acetylsalicylicum ![]() |
![]() |
![]() Aspirin | |
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol ![]() |
Màs | 180.042 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₉h₈o₄ ![]() |
Enw WHO | Acetylsalicylic acid ![]() |
Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, llid, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, gout attack, twymyn gwynegon, acute myocardial infarction, clefyd y galon, ffibriliad atrïaidd, acute coronary syndrome ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c ![]() |
Label brodorol | Acidum acetylsalicylicum ![]() |
Yn cynnwys | ocsigen, carbon, hydrogen ![]() |
Enw brodorol | Acidum acetylsalicylicum ![]() |
![]() |
Mae aspirin, neu asid acetylsalicylic (ASA), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen, twymyn neu lid. Ymysg y cyflyrau llidiol penodol y mae aspirin yn cael eu defnyddio ar eu cyfer mae'r afiechyd Kawasaki, pericarditis, a thwymyn riwmatig. Gall aspirin, o'i roi i glaf yn fuan ar ôl trawiad ar y galon, leihau'r risg o farwolaeth. Defnyddir aspirin hefyd fel meddyginiaeth reolaidd tymor hir i helpu i atal trawiad ar y galon, strôc isgemig, a chlotiau gwaed mewn pobl sydd â risg uchel. Gall hefyd leihau'r risg o rai mathau o ganser, yn enwedig canser y colon a'r rectwm.
Ar gyfer poen neu dwymyn, mae effaith asprin, fel arfer, yn dechrau o fewn 30 munud. Mae aspirin yn gyffur gwrthlid ansteroidal (NSAID) ac mae'n gweithio'n debyg i NSAIDau eraill ond hefyd yn atal gweithrediad arferol platennau[1].
Defnydd[golygu | golygu cod]
Poen[golygu | golygu cod]
Mae aspirin yn analgesia effeithiol ar gyfer poen acíwt, ond fe'i hystyrir yn israddol i ibuprofen i liniaru poen yn gyffredinol oherwydd bod aspirin yn fwy tebygol o achosi gwaedu yn y stumog neu'r coluddion. Fel gyda NSAIDs eraill, mae cyfuniadau o aspirin a chaffein yn gallu lleddfu poen ychydig yn fwy nag aspirin yn unig. Mae fformwleiddiadau o aspirin eferw, megis Alka-Seltzer, yn lleddfu poen yn gyflymach nag aspirin mewn tabledi caled, sy'n eu gwneud yn ddefnyddiol i drin y meigryn. Gall aspirin argroenol fod yn effeithiol ar gyfer trin rhai mathau o boenau niwropathig.
Ymysg y cyflyrau poen cyffredinol y mae aspirin yn cael ei ddefnyddio i'w trin yw 'r danodd a phoenau'r misglwyf[2].
Cur pen[golygu | golygu cod]
Mae aspirin, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn ffurfiad cyfunol, yn trin rhai mathau o gur pen yn effeithiol, ond ni fydd mor effeithiol ar gyfer eraill.
Mae'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Anhwylderau Cur Pen Ymhlith y cur pen cynradd, yn gwahaniaethu rhwng cur pen tensiwn (y mwyaf cyffredin), meigryn a chur pen clwstwr. Mae aspirin neu analgyddion eraill dros y cownter yn cael eu cydnabod yn eang yn effeithiol ar gyfer trin pen tensiwn. Mae aspirin, yn enwedig fel elfen o gyfuniad aspirin / paracetamol / caffein, yn cael ei ystyried yn therapi llinell gyntaf wrth drin y meigryn, yn arbennig wrth i ymosodiad cychwyn.
- Os achosir cur pen gan drawma, dylid ymofyn triniaeth feddygol broffesiynol yn hytrach na'i drin eich hunan gyda dos o boenliniarydd dros y cownter, megis aspirin.
Y Dwymyn[golygu | golygu cod]
Mae aspirin yn cael ei ddefnyddio i leihau tymheredd uchel yn y corff. Er ei fod wedi ei hen sefydlu fel moddion i drin y dwymyn mewn oedolion, mae llawer o gymdeithasau meddygol ac asiantaethau rheoleiddiol yn cynghori yn gryf yn erbyn defnyddio aspirin ar gyfer trin twymyn mewn plant a phobl ifanc o dan 16 mlwydd oed. Mae yna risg o ddatblygu syndrom Reye, salwch prin, ond yn aml yn angheuol, sy'n gysylltiedig â defnyddio aspirin neu salicylatau eraill mewn plant yn ystod cyfnodau o haint firaol neu facteriol[3].
Llid[golygu | golygu cod]
Defnyddir aspirin fel asiant gwrthlidiol ar gyfer llid acíwt a hirdymor, yn ogystal â thrin clefydau llidiol fel rhiwmatic a'r gwynegon.
Teneuo'r gwaed[golygu | golygu cod]
Mae triniaeth hirdymor gyda dosau isel o aspirin - 75 mg fel arfer - yn cael effaith ar y platennau gan wneud y gwaed yn llai gludiog ac yn gallu atal clotiau gwaed rhag datblygu. Gan hynny bydd meddygon yn argymell ei ddefnydd gan bobl sydd wedi dioddef o drawiad ar y galon neu angina, strôc neu ymosodiad isgemig dros dro (TIA), clefyd rhydweli ymylol (PAD) neu lawdriniaeth osgoi rhydweli coronaidd neu weithred arall ar y galon neu'r pibellau gwaed.
Sgil effeithiau[golygu | golygu cod]
Cyffredin[golygu | golygu cod]
- Camdreuliad neu boen bol - gall cymryd y feddyginiaeth gyda bwyd helpu i leihau'r perygl hwn
- Gwaedu neu gleisio yn haws nac arfer
Llai cyffredin[golygu | golygu cod]
- Llosg dynad - brech boeth sy'n codi'n gyflym
- Tinitws (y gloch fach / canu yn y glust) - clywed synau sy'n dod o du fewn y glust
- Anawsterau anadlu neu ymosodiad asthma
- Adwaith alergaidd - gall hyn achosi problemau anadlu, chwyddo'r geg, gwefusau neu wddf, a brech sydyn
- Gwaedu yn y stumog - gall hyn achosi carthion tywyll, lliw tar neu waedu wrth chwydu
- Gwaedlif ar yr ymennydd - gall hyn achosi cur pen sydyn, difrifol, problemau golwg a symptomau strôc, megis lleferydd a gwendid ar un ochr i'r corff
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Drugs.com. American Society of Health-System Pharmacists. 6 mehefin 2016 Aspirin adalwyd 13 Ionawr 2016
- ↑ "NHS:Aspirin". Llywodraeth y DU. 06/05/2016. Cyrchwyd 13 Ionawr 2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ NHS UK Reyes syndrome adalwyd 13 Ionawr 2018
Rhybudd Cyngor Meddygol[golygu | golygu cod]
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |