Mislif

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Misglwyf)
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Newidiadau ffisegol o fewn yr organau cenhedlu benywaidd yw mislif, ble mae'r gwain yn gwaedu bob tua 28 diwrnod, os na bu beichiogi yn y cyfamser. Mae tair rhan i'r broses yma. Yn gyntaf mae wal y groth yn twchu, yn ail rhyddheir ofwm (neu wy) ac yn olaf, mae wal y groth yn gadael y corff, gyda pheth gwaed. Mae lefelau hormonau'r corff yn codi ac yn gostwng yn aruthrol dros y cyfnod hwn, gan beri newidiadau yn nheimladau'r ferch.

Mae mislif yn medru bod yn boenus iawn.

Meddygaeth amgen[golygu | golygu cod]

Defnyddir llysiau rhinweddol ers canrifoedd i wella'r boen mae'r ferch yn ei ddioddef.

  • Mislif afreolaidd:
Draenen wen (blodau), Hedyn moronen, Pig yr Aran, Rhosyn, Saets y waun
  • Mislif poenus:
Camri, Draenen wen (blodau), Penrhudd, Pig yr Aran, Rhosyn, Saets y waun
  • Mislif ysgafn:
Ffenigl, Merywen, Rhosyn, Saets y waun

Ffyrdd o ddelio gyda'r Mislif[golygu | golygu cod]

Tampon

Mae menywod wedi gorfod delio gyda'r mislif erioed. Ers canol yr 20g dechreuwyd cynhyrchu a gwerthu adnoddau saffach a glanach fel y tampon. Mae'r tampon yn lân ac yn hawdd ei ddefnyddio (er bydd merched ifainc efallai'n cael trafferth i gychwyn). Gan fod y rhan fwyaf o tamponau yn cynnwys seliwlos ceir hefyd rhai dyfeisadau organig neu ail-ddefnydd er mwyn peidio effeithio ar yr amgylchedd ac i arbed arian yn yr hir-dymor i'r ddynes.

Gellir hefyd defnyddio cwpan mislif sydd yn casglu'r gwaed ac yna gellir golchi ac ail-ddefnyddio'r gwpan. Mae'r cwpan yn ddrytach i'w brynu y tro cyntaf (oddeutu £20) ond mae'r ffaith bod ei olchi ac ail-ddefnyddio yn arbed llawer o arian yn yr hir-dymor.

Effeithiau Meddygol y Mislif[golygu | golygu cod]

  • Anhwylder Dysfforig cyn-Mislifol (Premenstrual dysphoric disorder, PMDD) - problem meddygol tebyg i Syndrom cyn-Mislifol, Premenstrual Syndrome (PMS) ond yn fwy difrifol. Mae'n gallu creu iselder difrifol, panic, hwyliau cyfnewidiol, diffyg cyd-gysylltiad, dicter, a diffyg cof. Mae'n cychwyn 10-14 diwrnod cyn y mislif ac yn dueddol o wella unwaith mae'r mislif yn dechrau. Gall fod yr effeithiau meddyliol yn digwydd oherwydd diffyg seretonin yn y corff. Mae'n ffeithio 3-5% o fenywod sy'n cael y mislif er ei bod nifer o'i dioddefwyr yn derbyn diagnosis anghywir e.e. bipolar. Gellir bwyta bwyd gwyrdd, bwyd â magnesiwm er mwyn ceisio lleddfu'r anhwylder.[1]

Termau[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, defnyddir y term misglwyf yn Gymraeg - yn y Beibl er enghraifft[2]. Mae cofnodion o'r gair mislif o 1632 ymlaen,[3] a dyma'r term sy'n fwy poblogaidd bellach, ar y we o leiaf.

Mewn iaith bob dydd, defnyddiwyd llawer o dermau eraill oherwydd y tabŵ fu'n gysylltiedig â'r mislif. Yn Gymraeg, ceir "cwarfod misol[4]" a "pethau canu"[angen ffynhonnell] er enghraifft.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.youtube.com/watch?v=HMLFt84YzK4&list=TLGGJn-dfhHHuS8xMTA3MjAyMA
  2. "Beibl (1620)/Lefiticus - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2020-11-03.
  3.  mislif. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  4. Rees, Mair (2014-07-15). Y Llawes Goch a'r Faneg Wen: Y Corff Benywaidd a'i Symbolaeth mewn Ffuglen Gymraeg gan Fenywod. University of Wales Press. t. 135. ISBN 978-1-78316-125-6.