Croth
Gwedd
Organau cenhedlu benywaidd |
---|
![]() |
Prif organ cenhedlu benywaidd yn mamolion, yn cynnwys bodau dynol, yw croth, bru neu wterws, yn y pelfis rhwng y fagina a'r tiwbiau ffalopaidd; terfydd agos y fagina yw ceg y groth. Swydd y groth yw diogelu rhith (ffetws) yn ystod beichiogrwydd.

Ceir llawer o siapau gwahanol wrth gymharu crothau anifeiliaid gwahanol; mae'r groth ddynol ar ffurf gellygen.