Ffrwyth ciwi
Ffrwyth ciwi | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Ericales |
Teulu: | Actinidiaceae |
Genws: | Actinidia |
Rhywogaeth: | A. deliciosa |
Enw deuenwol | |
Actinidia deliciosa C.F.Liang.ac A.R.Ferguson. |
Ffrwyth hirgrwn y gellir ei fwyta yn gyfan yw'r ffrwyth ciwi (Actinidia deliciosa). Mae'n wyrdd ac yn feddal y tu mewn, gyda hadau bach du. Ar y tu allan mae ei groen yn flewog ac yn frown; fel y nodwyd, gellir bwyta'r ffrwyth yn gyfan, neu grafu'r croen oddi arno cyn ei fwyta. Mae'r ffrwyth ciwi yn hirgrwn ac o faint ŵy iâr gweddol fawr.
O Tsieina y daw teulu'r ffrwyth ciwi yn wreiddiol; yn wir, Chinese gooseberries neu eirin Mair Tsieina oedd yr enw arnynt yn wreiddiol. Ym 1959, rhoddodd allfudwyr bwyd o Seland Newydd enw newydd ar y ffrwythau am resymau marchnata. Mae'r ciwi yn aderyn brodorol yn Seland Newydd ac yn symbol cenedlaethol yno.
Mae'r ffrwyth ciwi yn fwyd iachus sy'n cynnwys llawer o fitaminau a mwynau, gan gynnwys potasiwm a fitamin C. Er nad oedd ar gael i'w brynu'n gyffredin yng Nghymru tan saithdegau'r ganrif ddiwethaf, mae'n un o'r ffrwythau mwyaf poblogaidd yn y siopau erbyn hyn.