Meillionen
| Meillion | |
|---|---|
| Meillionen wen (Trifolium repens) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Fabales |
| Teulu: | Fabaceae |
| Is-deulu: | Faboideae |
| Genws: | Trifolium L. |
| Rhywogaethau | |
|
tua 300 | |
Mae Meillion (sengl: Meillionen; Lladin: Trifolium), yn genws o tua 300 o rhywogaethau o blanhigion yn nheulu'r pys, sef Fabaceae. Mae gan y genws ddosbarthiad amlgenhedlig; mae'r amrywiaeth uchaf i'w gael yn Hemisffer Gogleddol cymedrol, ond mae nifer o rywogaethau ar gael yn Ne America ac Affrica, gan gynnwys uchderau mynyddoedd y trofannau. Maen nhw'n blanhigion blynyddol, dwyflynyddol, neu'n blanhigyn lluosflwydd llysieuol. Mae'r dail yn dair-ddeiliog (yn anaml yn 5 neu 7 deiliog), gyda stipylau yn cysylltu â choes y ddeilen, a phennau sbigynnau dwys o flodau bychain coch, piws, gwyn neu felyn; mae'r codenni sy'n cynnwys ychydig o hadau wedi eu hamgáu yn y blodyn.
Llên Gwerin
[golygu | golygu cod]"Tegwyn yn hadu clofer o Ruthun”[1] Clofer cymysg o goch a gwyn oedd hwn, mae’n debyg. Mae Tegwyn yn cofio hefyd mynd i fferm Coed Acas, ger Dinbych, i nôl clofer coch, clofer brasach. Mae hyn yn f’atgoffa o ddau enw oedd gennym ni, blant Uwchaled: ‘y borfa’n drwch o siwgwr coch a siwgwr gwyn’.[2]
Rhai Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]

