Rio Grande do Sul

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rio Grande do Sul

Talaith fwyaf deheuol Brasil yw Rio Grande do Sul. Roedd y boblogaeth yn 10,963,216 yn 2006. Prifddinas y dalaith yw Porto Alegre.

Yn y gogledd mae'n ffinio ar dalaith Santa Catarina, gydag Afon Uruguay yn eu gwahanu. Yn y de mae'n ffinio ar Uruguay, ac yn y gorllewin ar yr Ariannin, gyda'r môr ar yr ochr orllewinol.

Yn 1851, sefydlodd Thomas Benbow Phillips (1829 - 1915) wladfa Gymreig yn Rio Grande do Sul. Ymhen dwy flynedd roedd tua chant o Gymry yno, ond erbyn diwedd 1854, roedd y rhan fwyaf o'r sefydlwyr wedi gwasgaru; yn ôl Phillips, yn bennaf oherwydd i lawer ohonynt, oedd yn gyn-lowyr, symud i weithio i weithfeydd glo ym Mrasil.

Gweler hefyd[golygu]


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau Brasil
Taleithiau AcreAlagoasAmapáAmazonasBahiaCearáEspírito SantoGoiásMaranhãoMato GrossoMato Grosso do SulMinas GeraisParáParaíbaParanáPernambucoPiauíRio de JaneiroRio Grande do NorteRio Grande do SulRondôniaRoraimaSanta CatarinaSão PauloSergipeTocantins
Tiriogaethau Distrito Federal