Luiz Inácio Lula da Silva
Luiz Inácio Lula da Silva | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Hydref 1945 ![]() Caetés ![]() |
Man preswyl | Palácio da Alvorada ![]() |
Dinasyddiaeth | Brasil ![]() |
Galwedigaeth | undebwr llafur, gwleidydd, turner ![]() |
Swydd | Arlywydd Brasil, Aelod o Siambr Dirprwyon Brasil, President-elect of Brazil, Arlywydd Brasil ![]() |
Plaid Wleidyddol | Workers' Party ![]() |
Tad | Aristides Inácio da Silva ![]() |
Mam | Eurídice Ferreira de Melo ![]() |
Priod | Maria de Lurdes da Silva, Marisa Letícia Lula da Silva, Rosângela Lula da Silva ![]() |
Plant | Marcos Claudio Lula da Silva, Fábio Luís Lula da Silva ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Grand Cross of the Order of the Bath, Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes Urdd Cenedlaethol Teilyngdod am Wyddoniaeth, Gwobr Bruno Kreisky, Letelier-Moffitt Human Rights Award, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Indira Gandhi, Gwobr Four Freedoms, Chatham House Prize, Gwobr Bwyd y Byd, Gwobr 'North–South', Grand Cross with diamonds of Order of the Sun of Peru, Grand Cross of the Military Order of the Tower and Sword, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, torch mawr Gorchymyn Condor yr Andes, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Urdd Rio Branco, Urdd Teilyngdod y Llynges, Order of Liberty, Urdd yr Eliffant, Grand Cross of the Order of Boyacá, Order of the Star of Ghana, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Urdd Umayyad, Order of Omar Torrijos Herrera, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of the Eagle of Zambia, Order of Amilcar Cabral 1st Class, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, National Order of Merit, Grand Collar of the Order of Liberty, hincha de argentino de quilmes, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos, honorary doctorate of the University of Salamanca, Grand Cross of the National Order of Benin, Urdd Seren y Cyhydedd, Order of Aeronautical Merit, honorary doctorate of the University of Coimbra, Amílcar Cabral Medal, Gwobr 'Collar de la Orden Mexicana del Águila Azteca', National Order of Merit ![]() |
Gwefan | https://lula.com.br/ ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Gwleidydd Brasilaidd yw Luiz Inácio Lula da Silva, enw gwreiddiol Luiz Inácio da Silva (ganed 27 Hydref 1945) a wasanaethodd yn Arlywydd Brasil o 2003 i 2011.
Ganed ef yn Caetés yn nhalaith Pernambuco, i deulu tlawd. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol; ni ddysgodd ddarllen nes oedd yn ddeg oed. Yn 1956 symudodd y teulu i ddinas São Paulo. Bu'n weithgar gydag undebau llafur, ac ar 10 Chwefror 1980, roedd yn un o'r grŵp a ddechreuodd y Partido dos Trabalhadores (PT), "Plaid y Gweithwyr". Yn 1982, ychwanegodd ei lysenw, Lula, ar ei enw yn gyfreithiol. Yn 1986 enillodd sedd ar Gyngres Brasil. Yn 1989 ymladdodd yr etholiad arlywyddol dros Blaid y Gweithwyr, ond yn aflwyddiannus.
Etholwyd ef yn Arlywydd ar 27 Hydref 2002 gyda 61% o'r bleidlais yn yr ail rownd o'r etholiad arlywyddol, a dechreuodd yn y swydd ar 1 Ionawr 2003. Ar 29 Hydref 2006, etholwyd ef am ail dymor.