Arlywydd Brasil

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Baner yr arlywydd

Pennaeth ar lywodraeth a gwladwriaeth Brasil yw Arlywydd Brasil, yn llawn Arlywydd Gweriniaeth Ffederal Brasil (Portiwgaleg: Presidente da República Federativa do Brasil). Yn y system bresennol, etholir yr arlywydd gan y boblogaeth am dymor pedair blynedd, a châi'r hawl i sefyll unwaith am ail-etholiad.

Sefydlwyd Gweriniaeth Taleithiau Unedig Brasil ym 1889, gan ddod â brenhiniaeth Ymerodraeth Brasil i ben. Rhwng 1937 a 1967, enw swyddogol y weriniaeth oedd Taleithiau Unedig Brasil.

Arlywydd presennol: Jair Bolsonaro

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]