Artaith

Oddi ar Wicipedia
Artaith
Mathgweithrediad dynol, trosedd, inhumane treatment, ymyriad hawliau dynol, trais Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Artaith

Gweithred sy'n achosi poen neu ddioddefaint corfforol neu feddyliol ar berson yn fwriadol yw artaith. Caiff person ei arteithio er mwyn cael gafael ar wybodaeth ganddo, neu drydydd person, neu er mwyn cael cyfaddefiad, neu er mwyn ei gosbi am ei weithred ef neu drydydd person, neu er mwyn ei ddychryn neu ei orfodi ef neu drydydd person i wneud rhywbeth. Nid yw'r diffiniad o artaith yn cynnwys poen neu ddioddefaint sy'n digwydd yn gysylltiedig â chosb cyfreithlon.[1]

Weithiau bydd artaith yn digwydd er mwyn rhoi boddhad sadistic i'r arteithiwr, fel y bu yn achos Llofruddiaethau'r Rhos gan Ian Brady a Myra Hindley.

Caiff artaith ei wahardd gan cyfraith ryngwladol a chyfreithiau cyffredin y rhanfwyaf o wledydd. Mae Amnesty International yn amcangyfrif fod tua 81 o lywodraethau'r byd yn parhau i ddefnyddio artaith heddiw, a rhai o rheiny yn gwbl agored.[2]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.